Sefydliadau Cymorth

Cysylltiadau ag adnoddau a chefnogaeth trydydd parti

  1. Meic

    Meic ydy’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.

    O ddarganfod beth sydd yn digwydd yn dy ardal leol i helpu ymdrin â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando pan fydd neb arall yn barod i wneud. Nid ydym yn barnu a gallem helpu wrth gynnig gwybodaeth, cyngor defnyddiol a chynnig cefnogaeth i wneud newidiadau yn dy fywyd.

    Cysyllta â ni yn Gymraeg neu’n Saesneg – dy ddewis di! Rydym yn agored 8yb i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gallet ti gysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar y we. Rydym yn gyfrinachol ac nid oes rhaid i ti roi enw. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i bawb.

    Meic – Rhywun ar dy ochr di

    Rhadffôn: 080880 23456
    Neges Testun: 84001
    Sgwrsio ar y we: www.meic.cymru

  2. Money Helper

    Mae MoneyHelper yn uno canllawiau i arian a chanllawiau i bensiynau fel y gallwch ddod o hyd i’r cymorth cywir yn haws ac yn gyflymach. Mae’n tynnu ynghyd wasanaethau a chymorth tri darparydd arweiniad ariannol a gefnogir gan y llywodraeth, sef: y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Gwasanaeth Cynghori am Bensiynau a  Pension Wise.

  3. Y Gymdeithas Genedlaethol i Bobl a Gamdriniwyd fel Plant (NAPAC)

    Mae’r niwed a achosir gan gamdriniaeth plant yn parhau ymhell y tu hwnt i’w plentyndod yn aml iawn. Mae NAPAC yn cynnig cymorth i oedolion sydd wedi goroesi, a hyfforddiant i’r bobl sy’n eu cefnogi nhw. Maen nhw’n cynnal grwpiau cymorth pan mae cyllid ar gael i wneud hynny.

     

  4. National Self Harm Network

    Mae NHSN yn cefnogi unigolion sy’n hunan-niweidio er mwyn gostwng eu trallod emosiynol a gwella eu hansawdd bywyd. Mae hwn yn fforwm ar-lein sy’n cael ei fonitro’n agos.

  5. Nyth

    Mae’r cynllun Nyth yn cynnig amrywiaeth o gyngor diduedd yn rhad ac am ddim ac, os ydych yn gymwys, becyn o welliannau rhad ac am ddim i wella effeithiolrwydd ynni eich cartref, fel boeler newydd, gwres canolig neu ynysiad. Gall hyn ostwng eich biliau ynni a dod â buddion i’ch iechyd a’ch lles.