Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Mae hwn yn darparu cymorth a chyngor am drais yn erbyn merched, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol.
Os ydych chi, aelod o deulu, ffrind, neu rywun rydych yn pryderu amdanynt, wedi dioddef camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i gael cyngor a chefnogaeth am ddim neu i siarad am eich opsiynau.
Cysylltwch â chynghorwyr Byw heb Ofn yn rhad ac am ddim ar y ffôn, drwy sgwrs ar-lein neu ar yr e-bost.