Mae Cerrig Camu’n cynnig cymorth a gwasanaeth cwnsela proffesiynol i oedolion a gafodd eu cam-drin yn rhywiol yn eu plentyndod

Cafodd y gwasanaeth ei sefydlu yn 1984 ac mae’n cael ei ddarparu’n rhad ac am ddim ac yn gwasanaethu’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru. Rydym hefyd yn cynnig cymorth i deuluoedd a chyfeillion.

Gair am Gerrig Camu, Canllaw i Oroeswyr, Canllaw i Deuluoedd a Chyfeillion

Cysylltwch â ni

Nodwch ein bod yn darparu gwasanaeth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos drwy'r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn a fydd yn derbyn atgyfeiriadau ac yn darparu cymorth.

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

Mae Stepping Stones yn falch o fod yn gweithio ar y cyd â'r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn. Os oes angen cymorth arnoch y tu allan i'n horiau gwaith arferol, cysylltwch â'u llinell gymorth gyfrinachol am ddim a'u gwe-sgwrs fyw sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Byddant yn darparu cyngor a chymorth am ddim ac yn derbyn atgyfeiriad ar gyfer ein gwasanaeth gan unrhyw un sy'n pryderu am drais rhywiol neu gam-drin domestig.

Y diweddaraf o'r blog

Beth mae ein cleientiaid yn ei ddweud?

  • Roedd y pethau a ddysgais o’r cwnsela fel darnau o aur, a ddaeth i lawr arnaf drwy holl niwl a mwrllwch fy mywyd.

  • Heb Gerrig Camu byddwn i’n dal i fodoli yn hytrach na byw a gwneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

  • Rydych wedi rhoi’r holl sgiliau i mi yr wyf eu hangen i’m helpu i fod y gorau y gallaf fod, ac i’m helpu i oresgyn unrhyw beth y bydd raid i mi ei wynebu.