Male

  1. CALM (Campaign against living miserably)

    Mae’r ymgyrch CALM (Campaign Against Living Miserably) yn fudiad arweiniol yn erbyn hunanladdiad. Bob wythnos, mae 125 o bobl yn y DU yn cymryd eu bywydau eu hunain. Ac mae 75% o bawb yn y DU sy’n cymryd eu bywydau eu hunain yn ddynion. Mae CALM yn bodoli i newid hyn. Ymunwch â’r ymgyrch i godi eich llais yn erbyn hunanladdiad.

  2. Y Prosiect Dyn

    The’r prosiect Dyn Cymru Ddiogelach yn cefnogi dynion Heterorywiol, Hoyw, Deurywiol a Thraws sy’n dioddef camdriniaeth ddomestig gan bartner.

     

    Mae llinell gymorth Dyn Cymru Ddiogelach yn gadael i chi siarad yn hyderus â rhywun fydd yn gwrando arnoch heb feirniadu eich sefyllfa. Gallwn roi cefnogaeth i chi i ymdrin â’r problemau a wynebwch a dweud wrthych os oes unrhyw wasanaethau ar gael yn barod yn eich ardal.

  3. Kim4Him

    Gall unrhyw un wynebu heriau iechyd meddwl waeth beth yw eu hoedran, rhyw, hil neu gefndir cymdeithasol. Mae’r rhaglen wella i ddynion Kim4Him wedi ei llunio i’ch grymuso i adnabod a datblygu eich cryfderau a’ch galluoedd.  Mae’n eich cefnogi i wella eich lles drwy weithgareddau ac ymgysylltiad.

     

  4. Man Kind

    Mae ein llinell gymorth gyfrinachol ar gael i ddynion sy’n dioddef camdriniaeth ddomestig a thrais domestig ar draws y DU yn ogystal â’u cyfeillion, teuluoedd, cymdogion, cydweithwyr a chyflogwyr.

    Rydym yn darparu gwasanaeth gwybodaeth, cymorth a chyfeirio i ddynion sy’n dioddef o gamdriniaeth ddomestig gan eu gwraig, partner (yn cynnwys partner o’r un rhyw) neu ŵr presennol neu yn y gorffennol.