Alcoholics Anonymous
Mae Alcoholics Anonymous yn gymdeithas o ddynion a merched sy’n rhannu eu profiad, eu cryfder a’u gobaith gyda’i gilydd y gallan nhw ddatrys eu problem gyffredin a helpu eraill i oresgyn alcoholiaeth.
Yr unig ofyniad er mwyn bod yn aelod yw’r awydd i roi’r gorau i yfed. Does dim ffi na chost er mwyn bod yn aelod o AA; rydym yn hunan-gefnogol drwy gyfrwng ein cyfraniadau ein hunain.