Cyfeirio i’n gwasanaeth

Hunangyfeirio

Llenwi ein ffurflen hunangyfeirio ffurflen hunangyfeirio yw eich pwynt cysylltu cyntaf gyda Cherrig Camu Gogledd Cymru. Ein nod yw cysylltu â chi o fewn pedair wythnos i gadarnhau eich cyfeiriad ac, unwaith y byddwn wedi gwneud hynny, byddwn yn cysylltu â chi drwy eich dewis ddull o gyfathrebu i’ch gwahodd i ddod i asesiad cyntaf.

Byddwch yn cael eich asesiad cyntaf gyda chwnselydd cymwysedig a phrofiadol a byddwch, gyda’ch gilydd, yn penderfynu pa wasanaeth sy’n briodol i chi ar hyn o bryd. Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau yn cynnwys cwnsela, cyrsiau therapiwtig a gweithgareddau grŵp a byddwn yn rhoi gwybod i chi am y rhain os yw ein gwasanaeth yn addas i chi.

Yn dilyn eich asesiad cychwynnol, os yw’r gwasanaeth yn briodol i chi, cewch eich rhoi ar ein rhestr aros a byddwn yn ceisio cynnig apwyntiad sy’n cyd-fynd â’ch gofynion penodol chi a’r amseroedd rydych chi ar gael. Ar gyfer y cwnsela, rydym yn ceisio rhoi cwnselydd i chi o’r rhyw y dewiswch chi, y dull cwnsela sydd orau gennych chi – wyneb yn wyneb neu o bell (ffôn/ar-lein) ac yn yr ardal a’r iaith o’ch dewis chi.

Ar gyfer cyrsiau/gweithgareddau grŵp therapiwtig rydym yn darparu amgylchedd diogel sy’n sicrhau bod unigolion yn cael eu parchu a bod pethau’n cael eu cadw’n gyfrinachol bob amser.

Mae cymwysterau proffesiynol gan ein cwnselwyr i gyd ac mae pob un yn aelodau o Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP).

Credwn fod cwnsela’n gallu helpu os:

  • Rydych yn teimlo bod eich profiad yn eich ynysu chi
  • Rydych yn teimlo’n ddi-rym, fel dioddefwr
  • Rydych yn teimlo’n wahanol i bobl eraill
  • Rydych yn eich beio eich hun am yr hyn ddigwyddodd
  • Rydych yn teimlo’n llawn cywilydd, yn ddryslyd, yn flin neu wedi’ch brifo
  • Weithiau rydych yn teimlo fel eich anafu eich hun neu eisiau cymryd eich bywyd
  • Rydych yn teimlo na allwch eich amddiffyn eich hun

Cyfeirio proffesiynol

Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol sy’n cyfeirio rhywun i’n gwasanaeth, ein nod fydd cysylltu â nhw o fewn pedair wythnos i gadarnhau eu bod eisiau optio i mewn i’n gwasanaeth. Os nad ydyn nhw’n ymateb i’n cais, ni fyddwn yn cysylltu â nhw eto ac, oherwydd deddfwriaeth Diogelu Data ni fyddwn yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad, heblaw bod y darpar-gleient yn rhoi caniatâd i ni wneud hynny.

Os ydyn nhw eisiau defnyddio ein gwasanaethau byddan nhw’n dilyn ein proses gyfeirio arferol, ac unwaith y bydd y cyfeiriad wedi ei gadarnhau byddwn ni’n cysylltu â nhw gyda llythyr/galwad ffôn/neges destun ac yn eu gwahodd i ddod i asesiad cyntaf.

Bydd cwnselydd cymwysedig a phrofiadol yn gwneud yr asesiad cyntaf a bydd yn penderfynu a yw ein gwasanaeth yn briodol iddyn nhw ar hyn o bryd. Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, yn cynnwys cwnsela, cyrsiau therapiwtig a gweithgareddau grŵp a byddan nhw’n cael gwybod am y rhain os cânt eu derbyn i mewn i’n gwasanaeth.

Yn dilyn yr asesiad cyntaf, os yw’r gwasanaeth cwnsela’n briodol iddyn nhw, byddan nhw’n mynd ar y rhestr aros a byddwn yn ceisio cynnig apwyntiad sy’n cyfateb â’u gofynion penodol nhw ac sydd ar amser a dyddiad sy’n gyfleus iddyn nhw