Gyda phwy rydyn ni’n gweithio

Goroeswyr

Rydyn ni’n gweithio gydag oedolion sydd wedi goroesi camdriniaeth rywiol yn ystod eu plentyndod ac rydyn ni’n darparu cwnsela, cyrsiau seico-addysgol, cymorth therapiwtig a gwasanaethau eraill sy’n helpu’r unigolyn i ddod i delerau gyda’u camdriniaeth ac i wella. Mae’n rhaid i’r goroeswyr fod yn 18+ oed a gallant hunangyfeirio neu gael eu cyfeirio gan asiantaeth arall.

Darllenwch ein canllaw i gwnsela ar gyfer goroeswyr

Teuluoedd a chyfeillion goroeswyr

Rydym hefyd yn gweithio ar sail tymor byr gyda theuluoedd a chyfeillion goroeswyr i roi cymorth a gwybodaeth iddyn nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am y broses gwnsela a sut mae goroeswyr yn debygol o fod yn teimlo.

Darllenwch ein canllaw i gwnsela Cerrig Camu ar gyfer cyfeillion a theuluoedd

Troseddwyr

Dydyn ni ddim yn gweithio gyda phobl sydd wedi cyflawni camdriniaeth rywiol ar blant, ond mae gwasanaethau a sefydliadau eraill i’w cael sy’n gallu rhoi cymorth.

Stop it Now! yw’r unig elusen drwy’r DU gyfan sydd wedi’i hymroddi’n llwyr i atal camdriniaeth rywiol ar blant ac maen nhw’n darparu llinell gymorth ac adnoddau cyfrinachol.

StopSo yw’r Sefydliad Triniaeth Arbenigol i Gyflawnwyr a Goroeswyr Troseddu Rhywiol, ac maen nhw’n gweithio gyda’r bobl hynny sydd o dan y risg mwyaf o weithredu ar yr hyn sydd yn eu meddyliau.