Sexual Abuse

  1. Amethyst – Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC)

    Mae Amethyst yn Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) ar gyfer Gogledd Cymru, lle mae ystod o weithwyr proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn darparu cymorth, cefnogaeth a gwybodaeth i oedolion, plan a phobl ifanc sydd wedi’u treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol yng Ngogledd Cymru.

    Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r heddlu, y sector iechyd a gwasanaethau gwirfoddol y trydydd sector i sicrhau bod dioddefwyr y troseddau hyn yn cael mynediad at y gofal gorau posibl. Rydym yn annibynnol ar yr Heddlu a’r broses cyfiawnder troseddol.

  2. Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

    Mae hwn yn darparu cymorth a chyngor am drais yn erbyn merched, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol.

    Os ydych chi, aelod o deulu, ffrind, neu rywun rydych yn pryderu amdanynt, wedi dioddef camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth  Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i gael cyngor a chefnogaeth am ddim neu i siarad am eich opsiynau.

    Cysylltwch â chynghorwyr Byw heb Ofn yn rhad ac am ddim ar y ffôn, drwy sgwrs ar-lein neu ar yr e-bost.

  3. Y Gymdeithas Genedlaethol i Bobl a Gamdriniwyd fel Plant (NAPAC)

    Mae’r niwed a achosir gan gamdriniaeth plant yn parhau ymhell y tu hwnt i’w plentyndod yn aml iawn. Mae NAPAC yn cynnig cymorth i oedolion sydd wedi goroesi, a hyfforddiant i’r bobl sy’n eu cefnogi nhw. Maen nhw’n cynnal grwpiau cymorth pan mae cyllid ar gael i wneud hynny.

     

  4. Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru

    Mae Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru’n darparu gwybodaeth, cymorth arbenigol a therapi i unrhyw un sy’n 3 oed neu’n hŷn sydd wedi profi unrhyw fath o gamdriniaeth rywiol neu drais naill ai’n ddiweddar neu yn y gorffennol. Rydym hefyd yn darparu cymorth a therapi arbenigol i bartneriaid ac aelodau teulu’r bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan gamdriniaeth rywiol a thrais.

  5. StopSo

    StopSo yw’r Sefydliad Triniaeth Arbenigol i Droseddwyr a Goroeswyr Troseddu Rhywiol, ac mae’n gweithio gyda phobl sydd mewn perygl o weithredu ar yr hyn sydd yn eu meddyliau.