Mental Health

  1. Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP)

    Nid yn unig fywydau unigolion, ond bywydau teuluoedd a chymunedau. Mae ein gwaith yn adlewyrchu ein brwdfrydedd dros werth cwnsela a’i botensial i wella bywydau.

  2. Cais

    Mae Cais yn helpu pobl sy’n cael problemau gyda chaethiwed, problemau iechyd meddwl, datblygiad personol a chyflogaeth – yn ogystal â chynnig cymorth a gwybodaeth i’w teuluoedd a’u cyfeillion. Mae eu hamrywiaeth eang o wasanaethau’n cynnwys triniaeth breswyl ac adferiad, cwnsela, mentora cymheiriaid, cefnogi pobl yn eu cartrefi, helpu pobl yn ôl i’r gwaith neu addysg, gwaith grŵp ac ymyraethau ysgogol eraill.

  3. Hafal

    Mae Hafal yn Elusen wedi ei harwain gan ei Haelodau sy’n cefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl – gyda phwyslais arbennig ar y rheiny sydd â salwch meddwl difrifol – a’u gofalwyr a’u teuluoedd. Maen nhw hefyd yn cefnogi pobl eraill sydd ag amrywiaeth o anableddau ynghyd â’u gofalwyr a’u teuluoedd. 

  4. Kim4Him

    Gall unrhyw un wynebu heriau iechyd meddwl waeth beth yw eu hoedran, rhyw, hil neu gefndir cymdeithasol. Mae’r rhaglen wella i ddynion Kim4Him wedi ei llunio i’ch grymuso i adnabod a datblygu eich cryfderau a’ch galluoedd.  Mae’n eich cefnogi i wella eich lles drwy weithgareddau ac ymgysylltiad.