Cefnogwch ein gwaith

Am ein bod ni’n elusen, rydyn ni bob amser angen cyllid a chymorth er mwyn i ni allu cynnig cymorth i’r oedolion hynny sydd wedi dioddef camdriniaeth rywiol fel plant ynghyd ag aelodau eu teuluoedd, eu gofalwyr a’u ffrindiau.

Mae hyn yn cynnwys cwnsela i unigolion, gwaith grŵp, cyrsiau seico-addysgol, hyfforddiant addysgol, allgymorth, codi ymwybyddiaeth a mwy.

Gyda’ch cefnogaeth chi gallwn ni barhau i ddarparu’r gwasanaethau hyn a newid bywydau pobl go iawn

Dyma rai o’r ffyrdd hawdd y gallwch ein helpu ni.

 

Ffyrdd y gallwch ein cefnogi

  • Amazon Smile

    Mae AmazonSmile yn wefan a redir gan Amazon gyda’r un cynhyrchion, prisiau, a nodweddion siopa ag Amazon.com. Y gwahaniaeth yw, pan fyddwch chi’n siopa ar AmazonSmile, bydd yr AmazonSmile Foundation yn rhoi 0.5% o bris pryniant unrhyw gynhyrchion sy’n gymwys i’n helusen ni.

    Ewch i siopa ar AmazonSmile a bydd Amazon yn rhoddi i Gerrig Camu Gogledd Cymru, heb unrhyw gost i chi.

    Cerrig Camu AmazonSmile
  • Rhoi gyda neges destun

    Mae Rhoi drwy Destun yn gadael i chi gefnogi Cerrig Camu ar unwaith drwy anfon gair allweddol a maint eich rhodd yn syml iawn mewn neges destun. I gefnogi’r gwasanaethau y mae Cerrig Camu Gogledd Cymru yn eu darparu, anfonwch y testun: WELISTEN i 70085 i roi £5.

    Cyfrannwch trwy Neges SMS Nawr
  • Loto Lwcus

    Mae gennym ein Loteri ein hunain! Mae’n ffordd hawdd o’n cefnogi ni a chael cyfle i fod yn Enillydd Lotto Lwcus, gyda gwobr gyntaf wythnosol o £25,000 a llawer o wobrau eraill am ddim ond £1. Ewch i’n tudalen Loto Lwcus i ymuno yn yr hwyl ac i gael rhagor o wybodaeth.

    Cerrig Camu ar Loto Lwcus
  • Stepping Stones North Wales Logo

    Gogledd Cymru Cerrig Camu Ffurflen Rhoi Ar-lein

    Ffurflen ar-lein wedi’i phweru gan enthuse.com

    Rhoddwch

Beth fydd eich rhodd yn ei brynu?

£5
Pecyn o adnoddau hanfodol i helpu cleientiaid i ymdopi â’u proses o wella. Gallai hwn fod yn becyn lles sy’n cynnwys eitemau i helpu gyda’u hiechyd meddwl yn cynnwys cyngor ar arddio a hadau, defnyddiau crefft a dyfyniadau sy’n ysbrydoli.
£5
Dyddiadur myfyrio i helpu cleientiaid i edrych yn ôl ar eu proses o wella, yn ogystal â nodi eu teimladau a’u hemosiynau.
£5
Defnyddiau ar gyfer sesiwn grefftau Camau Nesaf
£10
Lluniaeth ysgafn i Camau Nesaf, er enghraifft cyn ac ar ôl gweithgaredd fel mynd am dro byddwn yn cynnig te, coffi a chacen
£20
Sesiwn hyfforddi ar-lein i wirfoddolwr gael dysgu sgiliau hanfodol.
£100
I brynu llechen i’r cleientiaid ei defnyddio i roi adborth a gwerthusiad hanfodol, a hefyd i adael iddyn nhw allu mynd ar gwrs ar-lein drwy roi benthyg y llechen iddyn nhw am gyfnod y cwrs.
£35
Awr o oruchwyliaeth glinigol i un o’n tîm.
£50
Bydd yn talu am 2 awr o oruchwyliaeth grŵp cyfoedion i 2 gwnselydd er mwyn iddyn nhw allu trafod yn gyfrinachol sut maen nhw’n teimlo a sut maen nhw’n edrych ar ôl eu lles eu hunain.
£75
I dalu am gost Asesiad Cychwynnol sy’n gadael i gleient ddod yn rhan o’r gwasanaeth - bydd yn talu costau amser yr asesydd a’r costau am waith papur a phostio.
£100
Darparu sesiwn allgymorth ac ymwybyddiaeth i dîm o bobl broffesiynol.
£150
Llogi ystafell ar gyfer grwpiau gweithgareddau Camau Nesaf bob tri mis.
£600
Byddai hwn yn gadael i gleientiaid fynd ar gwrs seico-addysgol 6 wythnos a fyddai'n eu helpu nhw i wella, gan gynnwys ymdrin â straen, gwydnwch ac emosiynau.
£1,500
Cwrs llawn o gwnsela arbenigol i oedolyn a ddioddefodd gamdriniaeth rywiol pan oedd yn blentyn.
£2,000
Cyfraniad mis i dalu am redeg safle ein prif swyddfa a chostau cysylltiedig
£3,500
Byddai’n talu am brydlesu ystafell gwnsela gyfforddus wedi ei dylunio’n bwrpasol yng Ngogledd Cymru am flwyddyn.