Domestic Abuse

  1. Uned Diogelwch Trais Teuluol (DASU)

    Mae DASU yn darparu ymyriadau proffesiynol wedi eu cydlynu a’u targedu i bobl sy’n dioddef camdriniaeth rywiol ledled Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.  Mae eu gwasanaethau’n cynnig dewis i ddefnyddwyr ein gwasanaeth, gan sicrhau’r diogelwch gorau iddynt, a diogelwch i’w teuluoedd gan ddangos gwerth gwych am arian i’n harianwyr a’n comisiynwyr.

  2. Y Prosiect Dyn

    The’r prosiect Dyn Cymru Ddiogelach yn cefnogi dynion Heterorywiol, Hoyw, Deurywiol a Thraws sy’n dioddef camdriniaeth ddomestig gan bartner.

     

    Mae llinell gymorth Dyn Cymru Ddiogelach yn gadael i chi siarad yn hyderus â rhywun fydd yn gwrando arnoch heb feirniadu eich sefyllfa. Gallwn roi cefnogaeth i chi i ymdrin â’r problemau a wynebwch a dweud wrthych os oes unrhyw wasanaethau ar gael yn barod yn eich ardal.

  3. Gorwel

    Mae Gorwel yn uned busnes o fewn y gymdeithas dai Grŵp Cynefin sy’n darparu gwasanaethau o safon i gefnogi pobl sy’n dioddef camdriniaeth ddomestig neu i gefnogi pobl sydd mewn perygl o golli eu cartrefi ac atal digartrefedd. Maen nhw’n gweithio gydag unigolion a theuluoedd, yn cynnwys tenantiaid Grŵp Cynefin, o fewn pedair sir yng Ngogledd Cymru: Môn, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych.

     

  4. Hafan Cymru

    Mae Hafan Cymru’n gymdeithas tai sy’n darparu llety a chymorth i ferched, dynion, eu plant a phobl ifanc ledled Cymru. Mae Hafan Cymru’n cynnig pecyn cyflawn o gymorth i helpu pobl sydd ag amrywiaeth eang o anghenion.

  5. Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

    Mae hwn yn darparu cymorth a chyngor am drais yn erbyn merched, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol.

    Os ydych chi, aelod o deulu, ffrind, neu rywun rydych yn pryderu amdanynt, wedi dioddef camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth  Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i gael cyngor a chefnogaeth am ddim neu i siarad am eich opsiynau.

    Cysylltwch â chynghorwyr Byw heb Ofn yn rhad ac am ddim ar y ffôn, drwy sgwrs ar-lein neu ar yr e-bost.

  6. Man Kind

    Mae ein llinell gymorth gyfrinachol ar gael i ddynion sy’n dioddef camdriniaeth ddomestig a thrais domestig ar draws y DU yn ogystal â’u cyfeillion, teuluoedd, cymdogion, cydweithwyr a chyflogwyr.

    Rydym yn darparu gwasanaeth gwybodaeth, cymorth a chyfeirio i ddynion sy’n dioddef o gamdriniaeth ddomestig gan eu gwraig, partner (yn cynnwys partner o’r un rhyw) neu ŵr presennol neu yn y gorffennol.