Gwirfoddoli
Mae ein elusen yn darparu cymorth drwy chwe sir gyfan Gogledd Cymru er bod gennym dîm bychan a’n bod yn dibynnu ar ein gwirfoddolwyr gwych i gefnogi ein gwaith fel ein bod yn gallu rhoi’r cymorth a’r gwasanaeth gorau posib i oroeswyr.
Mae amrywiaeth o rolau gwirfoddoli ar gael gennym ac rydym yn croesawu unigolion o bob cefndir sydd ag amrywiaeth o sgiliau ac, yn bwysicaf oll, sydd â’r amser i’n cefnogi ni.
Rydym yn croesawu ac yn parchu amrywiaeth a chefndiroedd a chredoau ysbrydol a diwylliannol pob grŵp ethnig, Rydym hefyd yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Os oes gennych ddiddordeb ac os hoffech wybod rhagor am ein helusen a sut y gallwch helpu pobl mewn angen yna mae croeso i chi gysylltu am sgwrs.
Meddai Carolyn, gweinyddwr gwirfoddol
“Dw i’n mwynhau bod yn weinyddwr gwirfoddol gyda Cherrig Camu Gogledd Cymru, oherwydd dw i’n credu yn y pethau maen nhw’n ceisio eu cyflawni a dw i eisiau defnyddio fy sgiliau i helpu eraill.”
Swyddi gwag i wirfoddolwyr ar hyn o bryd
Rydym yn chwilio am ysgrifennydd ar hyn o bryd ar gyfer ein bwrdd ymddiriedolwyr. I gael rhagor o wybodaeth a phecyn gwirfoddoli, cysylltwch â’r rheolwr digwyddiadau a gwirfoddoli: Shirley ar 07483 994 430 neu anfonwch e-bost i [email protected]