Gair amdanom ni

Mae Stepping Stones yn elusen wedi’i lleoli yng Ngogledd Cymru sy’n cynnig cwnsela unigol, cefnogaeth, cyrsiau ac adnoddau seico-addysgol yn ogystal â gwaith grŵp i oedolion sydd wedi goroesi camdriniaeth rywiol fel plant. Rydym hefyd yn cefnogi aelodau o’u teuluoedd, eu gofalwyr a’u ffrindiau.

Rydym yn wasanaeth annibynnol a chyfrinachol gydag oddeutu 20 o gwnselwyr sydd â chymwysterau proffesiynol yn gweithio ar draws chwe sir Gogledd Cymru. Mae ein prif swyddfa yn Wrecsam ond rydyn ni’n gweithio ar draws Ynys Môn, Conwy, Gwynedd, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam.

Mae ein gwasanaeth yn anwahaniaethol o ran hil, rhyw neu ethnigrwydd, rydym yn parchu ac yn croesawu amrywiaeth ac mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim i bawb.

Sefydlwyd Stepping Stones Gogledd Cymru yn 1984 a daeth yn elusen gofrestredig yn 1995.

Ein Nodau

Rydym eisiau cyflawni’r nodau canlynol:

Diogelu a chynnal iechyd da – meddyliol a chorfforol – y bobl hynny sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol gan wneud hynny, yn benodol, drwy ddarparu ymyrraeth therapiwtig a chwnsela unigol a grŵp.

Hyrwyddo addysg pobl sy’n gweithio gyda’r rheiny a ddioddefodd gamdriniaeth rywiol fel plant.

Ein Cynghorwyr

Mae ein holl gynghorwyr wedi’u hyfforddi’n broffesiynol i safon BACP – Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain, gan gynnal safonau uchel o sgiliau, arbenigedd ac arferion moesegol o fewn y fframwaith proffesiynau cwnsela.  Gellir gweld holl gofnodion cymwysterau a hyfforddiant ar gyfer staff a chwnselwyr trwy gysylltu â’r swyddfa.

Gall pob cwnselydd fynd ar sesiynau goruchwylio a hyfforddi rheolaidd. Maen nhw yma i’ch helpu a’ch cefnogi chi.

Cymerwch gip ar ein staff a’n hymddiriedolwyr.

MSP Quality Standards