Alcohol Abuse

  1. Al-Anon

    Mae Grwpiau Teulu Al-Anon y DU ac Iwerddon yno i unrhyw un y mae eu bywydau’n cael eu heffeithio, neu wedi cael eu heffeithio, gan broblem yfed rhywun arall. Mae ein haelodau’n darparu cyfarfodydd ymhob dinas a thref fawr ac yn ymroddedig i fod yno i chi pan fyddwch chi angen cymorth.

     

  2. Alcoholics Anonymous

    Mae Alcoholics Anonymous yn gymdeithas o ddynion a merched sy’n rhannu eu profiad, eu cryfder a’u gobaith gyda’i gilydd y gallan nhw ddatrys eu problem gyffredin a helpu eraill i oresgyn alcoholiaeth.

     

    Yr unig ofyniad er mwyn bod yn aelod yw’r awydd i roi’r gorau i yfed. Does dim ffi na chost er mwyn bod yn aelod o AA; rydym yn hunan-gefnogol drwy gyfrwng ein cyfraniadau ein hunain.

  3. Cais

    Mae Cais yn helpu pobl sy’n cael problemau gyda chaethiwed, problemau iechyd meddwl, datblygiad personol a chyflogaeth – yn ogystal â chynnig cymorth a gwybodaeth i’w teuluoedd a’u cyfeillion. Mae eu hamrywiaeth eang o wasanaethau’n cynnwys triniaeth breswyl ac adferiad, cwnsela, mentora cymheiriaid, cefnogi pobl yn eu cartrefi, helpu pobl yn ôl i’r gwaith neu addysg, gwaith grŵp ac ymyraethau ysgogol eraill.