Sefydliadau Cymorth

Cysylltiadau ag adnoddau a chefnogaeth trydydd parti

  1. Cynigion Rhywiol Digroeso

    Mae Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU yn bartneriaeth o dri sefydliad blaenllaw gydag un genhadaeth – hyrwyddo defnydd diogel a chyfrifol o dechnoleg ar gyfer pobl ifanc. Penodwyd y bartneriaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd yn Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel ar gyfer y DU ym mis Ionawr 2011 ac mae’n un o 31 o Ganolfannau Rhyngrwyd Mwy Diogel yn y rhwydwaith Insafe.

    Mae Cynigion Rhywiol Digroeso yn aml yn fathau o gam-drin ar sail rhywedd a gall fod ar ffurf iaith hynod rywiol neu negeseuon cyson a digymell, yn aml o natur rywiol. Ni fydd yr anfonwr yn ystyried o gwbl a yw’r person sy’n derbyn y negeseuon yn dymuno derbyn y cynigion rhywiol hyn ai peidio.

    Darganfyddwch sut i roi gwybod am gynigion rhywiol digroeso i wefannau rhwydweithio cymdeithasol a ddefnyddir yn rheolaidd.

    https://reportharmfulcontent.com/cygnor/cynigion-rhywiol-digroeso/?lang=cy

  2. Cronfa Fwyd Dyffryn Clwyd

    Mae ein gwasanaethau cronfa fwyd yn gwasanaethu Dyffryn Clwyd cyfan o Gorwen yn y de i Brestatyn a’r Rhyl yn y gogledd. Rydym yn gweithio hefyd gyda Byddin yr Iachawdwriaeth, y Groes Goch Brydeinig ac Age Connect i ddosbarthu parseli bwyd, a gweithiwn yn agos iawn â defnyddwyr y gwasanaeth a’u cyfeirio at Gyngor ar Bopeth Dinbych a Rhuthun, yn ogystal ag asiantaethau eraill, i gael cyngor medrus am faes cymhleth budd-daliadau a materion ariannol eraill. Rydym yn ymwybodol iawn o dlodi tanwydd ac, unwaith eto, rydym yn cyfeirio at yr asiantaethau priodol

  3. GIG Cymru i Gyn-filwyr

    Gwasanaeth arbenigol sy’n cael blaenoriaeth i unigolion sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, unrhyw bryd yn eu bywydau ac sy’n cael anawsterau iechyd meddwl yn ymwneud yn benodol â’u gwasanaeth milwrol

     

  4. Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru

    Mae Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru (WIMLU) yn targedu benthycwyr arian anghyfreithlon,  neu yn fwy cyffredin fenthycwyr arian didrwydded. Mae’r rhain yn ymchwilio benthyca anghyfreithlon ac unrhyw droseddau cysylltiedig, yn ogystal â chefnogi dioddefwyr benthycwyr didrwydded. Gall y benthycwyr hyn bod yn fenthycwyr graddfa fechan sy’n manteisio ar gyfeillion neu deulu, ond weithiau maen nhw’n droseddwyr treisgar a threfnus.