Debt

  1. Christians Against Poverty (CAP)

    Mae Christians Against Poverty (CAP) yn darparu cymorth rhad ac am ddim gyda dyledion ac yn cynnal grwpiau cymunedol lleol ledled y DU. Mae ein gwasanaethau rhad ac am ddim, a redir gydag eglwysi lleol, yn darparu cymorth ymarferol ac emosiynol ac yn dangos i bobl bod gobaith bob amser.

  2. Money Helper

    Mae MoneyHelper yn uno canllawiau i arian a chanllawiau i bensiynau fel y gallwch ddod o hyd i’r cymorth cywir yn haws ac yn gyflymach. Mae’n tynnu ynghyd wasanaethau a chymorth tri darparydd arweiniad ariannol a gefnogir gan y llywodraeth, sef: y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Gwasanaeth Cynghori am Bensiynau a  Pension Wise.

  3. Nyth

    Mae’r cynllun Nyth yn cynnig amrywiaeth o gyngor diduedd yn rhad ac am ddim ac, os ydych yn gymwys, becyn o welliannau rhad ac am ddim i wella effeithiolrwydd ynni eich cartref, fel boeler newydd, gwres canolig neu ynysiad. Gall hyn ostwng eich biliau ynni a dod â buddion i’ch iechyd a’ch lles.

  4. Step Change

    Mae gan Step Change fwy na 25 mlynedd o brofiad o ddarparu cyngor cefnogol am ddyled yn rhad ac am ddim. Maen nhw’n cynnig yr amrywiaeth ehangaf o atebion ymarferol i ddyled o unrhyw ddarparydd yn y DU. Gall unrhyw un gael cymorth a chyngor ganddynt. 

     

  5. Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru

    Mae Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru (WIMLU) yn targedu benthycwyr arian anghyfreithlon,  neu yn fwy cyffredin fenthycwyr arian didrwydded. Mae’r rhain yn ymchwilio benthyca anghyfreithlon ac unrhyw droseddau cysylltiedig, yn ogystal â chefnogi dioddefwyr benthycwyr didrwydded. Gall y benthycwyr hyn bod yn fenthycwyr graddfa fechan sy’n manteisio ar gyfeillion neu deulu, ond weithiau maen nhw’n droseddwyr treisgar a threfnus.