GIG 111 Cymru
GIG 111 Cymru yw’r ffordd newydd, cwbl rad ac am ddim o gysylltu â’r GIG o linellau tir a ffonau symudol. Cafodd y gwasanaeth ei dreialu’n wreiddiol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ond erbyn hyn mae ar gael hefyd yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Powys, Hywel Dda, Aneurin Bevan, Cwm Taf Morgannwg a Betsi Cadwaladr.