Sefydliadau Cymorth

Cysylltiadau ag adnoddau a chefnogaeth trydydd parti

  1. Hafan Cymru

    Mae Hafan Cymru’n gymdeithas tai sy’n darparu llety a chymorth i ferched, dynion, eu plant a phobl ifanc ledled Cymru. Mae Hafan Cymru’n cynnig pecyn cyflawn o gymorth i helpu pobl sydd ag amrywiaeth eang o anghenion.

  2. (English) Harmless

    Mae’n ddrwg gen i, mae’r cofnod hwn dim ond ar gael mewn English.

  3. Helpa Fi i Stopio Cymru

    Os ydych chi’n ystyried rhoi’r gorau i smygu, dyma’r adeg gorau i stopio. Mae Helpa Fi i Stopio yma i’ch cefnogi bob cam o’ch taith ddi-fwg. Gallwch dderbyn cymorth gan Helpa fi i Stopio dros y ffôn o hyd a chyfle i gael meddyginiaeth stopio smygu yn rhad ac am ddim.

  4. Llinell Gymorth Hourglass ar gyfer Pobl Hŷn

    LLINELL GYMORTH 24/7 AR GYFER POBL HŶN SYDD MEWN PERYGL O UNRHYW FATH O GAMDRINIAETH NEU ESGEULUSTOD.

    Hourglass yw unig elusen y DU sy’n canolbwyntio’n llwyr ar roi terfyn ar niwed a cham-drin pobl hŷn.

    Mae’r llinell gymorth rhadffôn genedlaethol yn rhoi cymorth a chyngor i unrhyw un sydd â phryderon neu gwestiynau am berson hŷn sydd mewn perygl o brofi, neu yn gwella, o unrhyw fath o gamdriniaeth neu esgeulustod.

    Rhif y Llinell Gymorth Rhadffôn yw 0808 808 8141.

    Bydd hyn yn galluogi i ni roi cyngor a chymorth amserol i bobl hŷn, eu teuluoedd ac ymarferwyr pan fydd eu hangen fwyaf arnynt.

  5. Gwasanaethau Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVA)

    Mae Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVAs) wedi eu hyfforddi i ddarparu cymorth emosiynol ac ymarferol i bobl sydd wedi dioddef trais, camdriniaeth rywiol ac ymosodiad rhywiol sydd wedi rhoi gwybod i’r heddlu neu sy’n ystyried rhoi gwybod i’r heddlu.

  6. Injury Capture

    Defnyddiwch yr ap “Injury Capture” i recordio a storio unrhyw dystiolaeth fforensig sy’n gyfreithiol-dderbyniadwy yn ddiogel mewn ychydig dapiau yn unig. ​
    Chi sydd i benderfynu, os a phryd, rydych yn dewis rhoi gwybod i’r heddlu am y drosedd yn ffurfiol a chyflwyno’r dystiolaeth iddynt.

    ​Ond p’un a ydych chi’n dewis cyflwyno’r dystiolaeth rydych chi’n ei chipio gyda’r ap hwn, heddiw, yfory neu ymhen ychydig flynyddoedd, bydd y dystiolaeth yn gyfreithiol-dderbyniadwy ac yn gallu cefnogi ymchwiliad cyflym a fyddai’n arwain at erlyniad gyda lwc.

    ​Pan fyddwch chi’n teimlo’n barod i ddweud rhywbeth, mae amddiffyniad, diogelwch a chyfiawnder dim ond ychydig dapiau i ffwrdd.

    Injury Capture logo

  7. Kim4Him

    Gall unrhyw un wynebu heriau iechyd meddwl waeth beth yw eu hoedran, rhyw, hil neu gefndir cymdeithasol. Mae’r rhaglen wella i ddynion Kim4Him wedi ei llunio i’ch grymuso i adnabod a datblygu eich cryfderau a’ch galluoedd.  Mae’n eich cefnogi i wella eich lles drwy weithgareddau ac ymgysylltiad.

     

  8. Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

    Mae hwn yn darparu cymorth a chyngor am drais yn erbyn merched, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol.

    Os ydych chi, aelod o deulu, ffrind, neu rywun rydych yn pryderu amdanynt, wedi dioddef camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth  Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i gael cyngor a chefnogaeth am ddim neu i siarad am eich opsiynau.

    Cysylltwch â chynghorwyr Byw heb Ofn yn rhad ac am ddim ar y ffôn, drwy sgwrs ar-lein neu ar yr e-bost.

  9. Man Kind

    Mae ein llinell gymorth gyfrinachol ar gael i ddynion sy’n dioddef camdriniaeth ddomestig a thrais domestig ar draws y DU yn ogystal â’u cyfeillion, teuluoedd, cymdogion, cydweithwyr a chyflogwyr.

    Rydym yn darparu gwasanaeth gwybodaeth, cymorth a chyfeirio i ddynion sy’n dioddef o gamdriniaeth ddomestig gan eu gwraig, partner (yn cynnwys partner o’r un rhyw) neu ŵr presennol neu yn y gorffennol.