Sefydliadau Cymorth

Cysylltiadau ag adnoddau a chefnogaeth trydydd parti

  1. Dewis Cymru

    Eiriolaeth i bobl dros 18 oed sydd ag anabledd dysgu neu gorfforol, anaf i’r ymennydd, nam ar y synhwyrau neu berson hŷn.

  2. Domestic Abuse Safety Unit (DASU)

    https://dasunorthwales.co.uk/

    104 Chester Road East

    Shotton

    Deeside

    CH5 1QD

     

    Flintshire

    01244 830436

     

    Rhyl

    01745 337104

     

    Wrexham

    01978 310203

     

    Colwyn Bay

    01492 534705

     

    Denbigh

    01745 337104

  3. Uned Diogelwch Trais Teuluol (DASU)

    Mae DASU yn darparu ymyriadau proffesiynol wedi eu cydlynu a’u targedu i bobl sy’n dioddef camdriniaeth rywiol ledled Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.  Mae eu gwasanaethau’n cynnig dewis i ddefnyddwyr ein gwasanaeth, gan sicrhau’r diogelwch gorau iddynt, a diogelwch i’w teuluoedd gan ddangos gwerth gwych am arian i’n harianwyr a’n comisiynwyr.

  4. Y Prosiect Dyn

    The’r prosiect Dyn Cymru Ddiogelach yn cefnogi dynion Heterorywiol, Hoyw, Deurywiol a Thraws sy’n dioddef camdriniaeth ddomestig gan bartner.

     

    Mae llinell gymorth Dyn Cymru Ddiogelach yn gadael i chi siarad yn hyderus â rhywun fydd yn gwrando arnoch heb feirniadu eich sefyllfa. Gallwn roi cefnogaeth i chi i ymdrin â’r problemau a wynebwch a dweud wrthych os oes unrhyw wasanaethau ar gael yn barod yn eich ardal.

  5. Galop

    Rydym yn cefnogi pobl LGBT+ sydd wedi dioddef camdriniaeth a thrais.

     

    Mae gan ein tim ddegawdau o brofiad mewn cefnogi pobl LGBT+ sy’n dioddef camdriniaeth ddomestig, trais rhywiol, trosedd gasineb, therapïau trosi fel maen nhw’n cael eu galw, camdriniaeth ar sail anrhydedd, priodas orfodol a mathau eraill o gamdriniaeth.

     

  6. Gorwel

    Mae Gorwel yn uned busnes o fewn y gymdeithas dai Grŵp Cynefin sy’n darparu gwasanaethau o safon i gefnogi pobl sy’n dioddef camdriniaeth ddomestig neu i gefnogi pobl sydd mewn perygl o golli eu cartrefi ac atal digartrefedd. Maen nhw’n gweithio gydag unigolion a theuluoedd, yn cynnwys tenantiaid Grŵp Cynefin, o fewn pedair sir yng Ngogledd Cymru: Môn, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych.

     

  7. Hafal

    Mae Hafal yn Elusen wedi ei harwain gan ei Haelodau sy’n cefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl – gyda phwyslais arbennig ar y rheiny sydd â salwch meddwl difrifol – a’u gofalwyr a’u teuluoedd. Maen nhw hefyd yn cefnogi pobl eraill sydd ag amrywiaeth o anableddau ynghyd â’u gofalwyr a’u teuluoedd.