Sefydliadau Cymorth

Cysylltiadau ag adnoddau a chefnogaeth trydydd parti

  1. Bullying UK

    Mae Bullying UK yn darparu cymorth gyda phob agwedd o fwlio – o fwlio ar-lein i fwlio llafar. Ffoniwch eu llinell gymorth rad ac am ddim i gael cyngor a chymorth.

  2. Cais

    Mae Cais yn helpu pobl sy’n cael problemau gyda chaethiwed, problemau iechyd meddwl, datblygiad personol a chyflogaeth – yn ogystal â chynnig cymorth a gwybodaeth i’w teuluoedd a’u cyfeillion. Mae eu hamrywiaeth eang o wasanaethau’n cynnwys triniaeth breswyl ac adferiad, cwnsela, mentora cymheiriaid, cefnogi pobl yn eu cartrefi, helpu pobl yn ôl i’r gwaith neu addysg, gwaith grŵp ac ymyraethau ysgogol eraill.

  3. CALM (Campaign against living miserably)

    Mae’r ymgyrch CALM (Campaign Against Living Miserably) yn fudiad arweiniol yn erbyn hunanladdiad. Bob wythnos, mae 125 o bobl yn y DU yn cymryd eu bywydau eu hunain. Ac mae 75% o bawb yn y DU sy’n cymryd eu bywydau eu hunain yn ddynion. Mae CALM yn bodoli i newid hyn. Ymunwch â’r ymgyrch i godi eich llais yn erbyn hunanladdiad.

  4. Christians Against Poverty (CAP)

    Mae Christians Against Poverty (CAP) yn darparu cymorth rhad ac am ddim gyda dyledion ac yn cynnal grwpiau cymunedol lleol ledled y DU. Mae ein gwasanaethau rhad ac am ddim, a redir gydag eglwysi lleol, yn darparu cymorth ymarferol ac emosiynol ac yn dangos i bobl bod gobaith bob amser.

  5. Cyngor ar Bopeth

    Cyngor rhad ac am ddim ar-lein gan Gyngor ar Bopeth i’ch helpu i ganfod ffordd ymlaen, beth bynnag yw’r broblem. Mae ein hymchwil yn ein galluogi i ymgyrchu ar faterion sy’n effeithio ar bobl.

     

  6. Cruse Bereavement Care Gogledd Cymru

    Mae Cruse Gogledd Cymru’n cynnig cymorth, cyngor a gwybodaeth gyda phrofedigaeth i blant, pobl ifanc ac oedolion pan fydd rhywun yn marw. Maen nhw’n cynnig y cymorth hwn mewn amrywiaeth o ffyrdd, er enghraifft:

    • Deall digwyddiadau Profedigaeth
    • Cymorth i Unigolion gyda Phrofedigaeth
    • Cymorth i Grwpiau gyda Phrofedigaeth
    • Gobaith Trwy Golled – grwpiau cymorth gan gymheiriaid
  7. Dan 24/7

    Mae Dan 24/7 yn llinell gymorth rad ac am ddim a chyfrinachol am gyffuriau, Mae galwadau o flychau ffôn cyhoeddus yn rhad ac am ddim: gallai eich rhwydwaith ffôn symudol godi ffi arnoch am alw o’ch ffôn symudol.