Ymddiriedolwyr

Ein hymddiriedolwyr yw’r bobl sy’n rhannu’r cyfrifoldeb pennaf am lywio ein helusen a chyfeirio’r ffordd y mae’n cael ei rheoli a’i rhedeg.

  1. Jane Williams

    Cadeirydd

    Rwy’n byw yn lleol i ardal Wrecsam, Gogledd Cymru ond mae gen i wybodaeth dda am Ogledd Cymru oherwydd y teithio rwyf wedi’i wneud yn ystod fy ngyrfa. Yn ddiweddar, rwyf wedi ymddeol yn gynnar o Heddlu Gogledd Cymru yn dilyn gyrfa hir a llwyddiannus o 36 mlynedd. Rwyf wedi gweithio mewn amrywiol rolau ar Staff yr Heddlu trwy gydol fy ngyrfa, a gan bob un ffocws ar y cwsmer. Mae fy rolau wedi cynnwys cefnogi a gweithio’n agos â swyddogion ar amrywiol lefelau o fewn y sefydliad, ond rwyf hefyd wedi cefnogi aelodau’r cyhoedd yn uniongyrchol. Y tu allan i’r gwaith rwyf wedi gwneud rolau gwirfoddol, yn bennaf ar safleoedd ysgolion. Rwyf wedi bod yn llywodraethwr ysgol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Ar hyn o bryd rwy’n Gadeirydd y Llywodraethwyr yn fy ysgol gynradd leol. Ochr yn ochr â chwpwl o ffrindiau ac fel rhieni sy’n gweithio, aethom ati i sefydlu darpariaeth gofal ar ôl ysgol yn yr ysgol. Rwyf wedi parhau i gefnogi’r fenter hon ac rwy’n falch iawn bod gennym ein safle ein hunain erbyn hyn. Rydym wedi gallu ymestyn y ddarpariaeth gofal plant i gynnig Hawl Bore Oes, clwb gwyliau, darpariaeth clwb ar ôl ysgol a chyflogi nifer o staff. Rwy’n parhau i wneud y gwaith hwn yn wirfoddol ac rwy’n Gadeirydd ar y Pwyllgor Rheoli. Mae dod yn Ymddiriedolwr i Gerrig Camu’n rôl gyffrous i mi am fy mod yn gwir fwynhau cefnogi gwasanaethau ymroddedig a gwerthfawr yn y gymuned.

  2. Jennie Henderson

    Is-gadeirydd

    Rwyf wedi ymddeol erbyn hyn ond rwyf wedi gweithio fel athrawes, gweithiwr cymdeithasol, gweithiwr proffesiynol mewn iechyd meddwl a chwnselydd plant a theuluoedd i’r elusen Gweithredu dros Blant. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda Cherrig Camu, fel ymarferydd ac Ymddiriedolwyr ers 30 mlynedd. Cefais fy mhenodi gan Vicki Boll (un o’r aelodau gwreiddiol), ac rwy’n rhannu ei hangerdd, ei gweledigaeth a’i hymrwymiad hithau i waith y sefydliad rhagorol yma.

  3. Paul Gordon

    Trysorydd

    Rwyf wedi cael gyrfa lwyddiannus am fwy na 30 o flynyddoedd mewn Bancio Corfforaethol, lle’r oeddwn yn arbenigo mewn cyllid busnes a rheoli risgiau. Roeddwn yn awyddus i ganfod ffyrdd o roi rhywbeth yn ôl i’m cymuned leol a, bellach, rwy’n gwneud nifer o rolau gwirfoddoli ochr yn ochr â’m swydd lawn amser. Rwy’n gobeithio defnyddio fy ngwybodaeth ariannol a busnes i helpu Stepping Stones i ddal ymlaen â’i ddull cynaliadwy cryf fydd yn gadael i’r elusen barhau i ddarparu’r cymorth gwych y mae, am lawer iawn iawn o flynyddoedd i ddod.

  4. Nigel Beesley

    Rydw i wedi ymddeol ond roeddwn i’n arfer gweithio yn y diwydiant cynhyrchu trydan lle deuthum yn Rheolwr Busnes yng Ngorsaf Bŵer Wylfa ac, yn y pen draw, yn Bennaeth Diogelwch i Magnox Electric.

    Gyda fy ngwraig wrth fy ochr, rwyf wedi helpu i fagu fy mhedwar o blant, ond yn anffodus bu farw fy merch Lucy o diwmor ar yr ymennydd yn 25 oed ym mis Mawrth 2017. Mae’r profiad trawmatig hwn wedi fy nghymell i ddechrau gweithio gyda Cherrig Camu. Mae’n teimlo fel teyrnged addas i helpu mewn sefydliad sy’n cynorthwyo oedolion i ymdopi â’r trawma o gael eu cam-drin yn rhywiol.

  5. Sara Worland

    Rwy’n gyfreithwraig i Wasanaeth Erlyn y Goron. Cyn cymhwyso i fod yn gyfreithwraig, cefais brofiad o weithio mewn amrywiaeth o rolau sector cyhoeddus oedd yn cynnwys gwaith rheoli prosiectau, llywodraethu corfforaethol, a gwaith contract a chomisiynu. Rwy’n ymfalchïo’n fawr yn y ffaith fy mod yn ymddiriedolwr i Gerrig Camu ac am yr effaith gadarnhaol y mae’r elusen wedi ei chael i gefnogi defnyddwyr ei gwasanaethau.

  6. Kim McCall

    Rwy’n athro hanes a gwleidyddiaeth amser llawn mewn ysgol leol i ferched yn unig. Cyn fy ngyrfa addysgu, roeddwn yn gweithio yn y sector polisi a materion cyhoeddus – yn gweithio i gorff masnach, plaid wleidyddol, ac yn ddiweddarach elusen ryngwladol fawr, lle roeddwn yn gyfrifol am ymgysylltu â’r llywodraeth a rhanddeiliaid allanol eraill, i wella’r trefniadau rheoleiddio, a’r dirwedd ddeddfwriaethol y mae elusennau’n gweithio ynddi. Rwyf wedi dychwelyd i Ogledd Cymru yn ddiweddar, lle cefais fy magu, ac rwy’n falch iawn o fod mewn sefyllfa i gefnogi gwaith Cerrig Camu fel ymddiriedolwr.

  7. Vince McAllister

    (English) Trustee

    Roeddwn yn Uwch Was Sifil, yn gyflogedig gan y Swyddfa Gartref pan benderfynais gymryd ymddeoliad cynnar yn 2018. Cyn hynny roeddwn wedi dal swyddi uwch yn y rhan fwyaf o adrannau mawr y llywodraeth a gweithiais fel Pennaeth Hyfforddiant CThEM am bum mlynedd cyn i mi ymddeol.

    Ers gorffen rwyf wedi ymgymryd ag amrywiaeth o rolau gwirfoddol gan gynnwys bod yn Ymddiriedolwr gydag elusen fawr am y pum mlynedd diwethaf. Byddwn yn gobeithio y bydd y sgiliau a’r profiad yr wyf wedi’u hennill o fy rolau yn y llywodraeth, a chyn hynny fel Ymddiriedolwr yn fy helpu i gefnogi’r cyfleoedd cyffrous sydd gennym i ddatblygu Cerrig Camu Gogledd Cymru ymhellach.