February 21, 2023

Arolwg Profiad yr Heddlu

A ydych yn ddioddefwr a goroeswr treisio neu drosedd rhywiol arall?

A ydych wedi hysbysu’r heddlu am y drosedd?

A ydych eisiau rhoi adborth ar eich profiad gyda’r heddlu?

Mae Ymgyrch Bluestone Soteria yn gwahodd dioddefwyr a goroeswyr treisio a throseddau rhywiol eraill er mwyn cymryd rhan mewn arolwg am eich profiad gyda’r heddlu. Mae’r arolwg ar-lein yn gyfan gwbl anhysbys.

 PAM? Bydd yr arolwg yn ein cynorthwyo ni ddeall sut mae’r broses heddlu’n teimlo i ddioddefwyr treisio a throseddau rhywiol eraill. Gwnawn ddefnyddio’r canfyddiadau hyn er mwyn cynorthwyo’r heddlu wella.

 PWY SY’N CAEL GWADD? Holl ddioddefwyr a goroeswyr treisio a throseddau rhywiol 18 oed a throsedd y mae eu hachos yn hysbys i’r heddlu. Efallai mai ond dechrau mae eich achos, neu efallai ei fod wedi bod yn mynd am beth amser, neu mae ar gau. Rydym eisiau gwrando ar bob dioddefwr a goroeswr.

PWY SY’N CYNNAL YR AROLWG HWN? Mae’r arolwg yn cael ei gynnal gan academyddion yn City, Prifysgol Llundain, yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC). Os gwnewch ateb ni allwch gael eich adnabod, a bydd eich data’n gwbl anhysbys.

 SUT WYF YN CWBLHAU’R AROLWG HWN? Gallwch gwblhau’r arolwg hwn ar-lein yn eich amser eich hun, ar eich cyflymder eich hun, ac mewn lle sy’n teimlo’n ddiogel a chyfforddus i chi. Ni ddylai gymryd mwy na 15 munud i’w gwblhau.

Mae hwn yn arolwg academaidd a gynhaliwyd gan City, Prifysgol Llundain, nid gan yr heddlu. ⁠Peidiwch â hysbysu am unrhyw droseddau yn yr arolwg gan y bydd eich ymateb yn anhysbys.

Cwblhewch yr arolwg ar tinyurl.com/1experiencesurvey