July 20, 2021

A ddylwn i roi gwybod i’r heddlu fy mod wedi cael fy ngham-drin yn rhywiol fel plentyn? Os byddaf yn cysylltu â’r heddlu – beth fydd yn digwydd wedyn?

“Gwybodaeth i Oedolion sydd wedi Cael eu Cam-drin yn Rhywiol fel Plant”

Mae rhoi gwybod i’r heddlu eich bod wedi dioddef camdriniaeth rywiol fel plentyn yn benderfyniad enfawr. Mae llawer o oedolion sydd wedi dioddef hyn yn cario baich eu camdriniaeth am flynyddoedd cyn penderfynu dweud rhywbeth, a dydy rhai pobl byth yn dweud.

Mae deall beth fydd yn digwydd unwaith maen nhw wedi cysylltu â’r heddlu’n gallu helpu rhywun sydd wedi dioddef camdriniaeth rywiol yn eu plentyndod i wneud penderfyniad mwy deallus, ac un sy’n gywir iddyn nhw fel unigolyn.

Mae Operation Hydrant, wedi gweithio gyda Heddlu’r Alban i ddatblygu ffilm fer wedi’i hanimeiddio i roi gwybodaeth gefnogol i oedolion sydd wedi dioddef a goroesi camdriniaeth fel plant sy’n ystyried rhoi gwybod i’r heddlu ac sydd eisiau gwybod beth fydd yn digwydd wedyn.

Mae’r ffilm wedi ei seilio ar ddau gymeriad ffug oedd wedi dioddef camdriniaeth fel plant, ac mae’n cymryd y gwyliwr ar daith addysgiadol –  o ddeall beth yw camdriniaeth plant, i wybodaeth am y broses adrodd, y broses gyfiawnder troseddol, a’r cymorth sydd ar gael.

Mae’r ffilm, sy’n para am ychydig llai nag 8 munud, yn ateb y cwestiynau a ganlyn:

  • Beth yw camdriniaeth plant?
  • Pam ddylwn i wneud adroddiad i’r heddlu?
  • Sut alla i wneud adroddiad am y gamdriniaeth i’r heddlu?
  • Beth sy’n digwydd ar ôl imi wneud adroddiad i’r heddlu?
  • Pwy sy’n penderfynu a fydd yr achos yn mynd i’r llys?
  • Beth sy’n digwydd os bydd raid i mi fynd i’r llys?
  • Pa gefnogaeth sydd ar gael?

Mae’r ffilm wedi ei chreu i oedolion sydd wedi dioddef camdriniaeth fel plant, ac mae’r wybodaeth sydd ynddi’n berthnasol i bob math o gamdriniaeth ar blant, yn cynnwys esgeulustod a cham-drin corfforol.

Cafodd y ffilm ei chefnogi gan gyrff erlyn Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae’n generig yn ei negeseuon, ac yn berthnasol i oedolion o unrhyw le yn y DU a ddioddefodd gamdriniaeth fel plentyn.

Mae’r heddlu’n cydnabod nad yw pawb sydd wedi dioddef neu oroesi camdriniaeth fel plant yn teimlo eu bod yn barod neu eu bod yn gallu rhoi gwybod i’r heddlu amdano, neu hyd yn oed eisiau rhoi gwybod i’r heddlu. Ond, mae’n bwysig bod yr holl ddioddefwyr a goroeswyr yn gallu gwneud penderfyniad deallus ac yn gwybod, os byddan nhw’n dewis cysylltu â’r heddlu, y bydd pobl yn gwrando arnyn nhw, yn eu credu ac yn eu cymryd o ddifri, ac y bydd yr heddlu’n esbonio iddyn nhw beth yw eu hopsiynau a beth sy’n digwydd nesaf.

Mae’r animeiddiad hwn yn cefnogi dioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth mewn plentyndod i wneud y penderfyniad sy’n gywir iddyn nhw. Mae’r heddlu’n ymrwymo i ymchwilio honiadau o gam-drin plant yn drwyadl, waeth pa mor bell yn ôl y digwyddodd y troseddau. Mae’r ymchwiliadau’n ddiduedd, a bydden nhw’n chwilio am unrhyw dystiolaeth sydd ar gael heb ofn na ffafriaeth. Y flaenoriaeth ar gyfer unrhyw ymchwiliad fydd diogelu bob tro.