Mae Cerrig Camu’n cynnig cymorth a gwasanaeth cwnsela proffesiynol i oedolion a gafodd eu cam-drin yn rhywiol yn eu plentyndod

Cafodd y gwasanaeth ei sefydlu yn 1984 ac mae’n cael ei ddarparu’n rhad ac am ddim ac yn gwasanaethu’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru. Rydym hefyd yn cynnig cymorth i deuluoedd a chyfeillion.

Gair am Gerrig Camu, Canllaw i Oroeswyr, Canllaw i Deuluoedd a Chyfeillion

Cysylltwch â ni

Nodwch ein bod yn darparu gwasanaeth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos drwy'r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn a fydd yn derbyn atgyfeiriadau ac yn darparu cymorth.

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

Mae Stepping Stones yn falch o fod yn gweithio ar y cyd â'r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn. Os oes angen cymorth arnoch y tu allan i'n horiau gwaith arferol, cysylltwch â'u llinell gymorth gyfrinachol am ddim a'u gwe-sgwrs fyw sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Byddant yn darparu cyngor a chymorth am ddim ac yn derbyn atgyfeiriad ar gyfer ein gwasanaeth gan unrhyw un sy'n pryderu am drais rhywiol neu gam-drin domestig.

Y diweddaraf o'r blog

Beth mae ein cleientiaid yn ei ddweud?

  • Mae cwnsela wedi fy helpu i gefnu ar lawer o’r dicter a’r chwerwedd oedd yn fy atal rhag estyn allan pan oeddwn i angen cymorth.

  • Roeddwn i eisiau rhannu rhywbeth gyda chi oherwydd heddiw gwnes i rywfaint o yoga wedi’i seilio ar chakra. Fe wnes i grio am bopeth a wnaed i mi ac a gafodd ei gymryd oddi wrthyf. Yn dal i feichio crio fe wnes i jyst gadael i bob un o’r teimladau lifo drwof i, yna daeth cynhesrwydd aruthrol o gariad a meithrin. Ac yna rhyddhad.

    Roedd hwn yn brofiad mor ddwys fel fy mod i eisiau rhannu fy ngorfoledd, ond gwn pe bawn i’n ceisio ei egluro i’m ffrindiau neu fy mam, na fyddent yn deall ac y byddai’n cymryd o’r hyn y mae’n ei olygu i mi.
    Y person cyntaf a’r unig berson roeddwn i eisiau dweud wrtho oedd chi. I ddathlu’r foment enfawr hon o newid a thwf gyda, fel yr ydych wedi fy ngweld trwy fy nhaith, deall y boen (a’r twf) ac wedi fy ngalluogi i dyfu i’r pwynt rwy’n gwybod sut i wneud, ac yn rhoi amser a meithrin a chariad i mewn i mi fy hun.
    Diolch, o bob rhan o fy nghorff ac enaid, diolch.

    Mae hyn yn dyst i bwysigrwydd yr hyn rydych chi’n ei wneud yno yn Cerrig Camu ac i chi fel person sy’n gwella, dod ag iachâd a heddwch i eraill.
    Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr yr hyn rydych chi wedi’i wneud i mi ac yn ei wneud i eraill.

    Os oeddech chi eisiau defnyddio’r testun hwn ar y wefan neu i hyrwyddo’ch gwasanaethau mewn unrhyw ffordd a allai estyn allan at neu ysbrydoli eraill a allai fod â gormod o ofn cychwyn ar eu taith, gwnewch.

     

  • Rwy’n adnabod y sbardunau yn awr. Gallaf ddefnyddio technegau i’m seilio fy hun. Rwy’n well am adael i bobl eraill wybod sut rwy’n teimlo ac mae gen i strategaethau ymdopi gwahanol.