Beth yw camdriniaeth rywiol?

Mae nifer o ddiffiniadau ffurfiol o gamdriniaeth rywiol, yn cynnwys hyn:

‘Camdriniaeth rywiol yw pan fydd rhywun gyda mwy o bŵer na rhywun arall sy’n agored i niwed yn camfanteisio ar y pŵer hwnnw.

Mae’r troseddu hwn yn digwydd ar ffurf rywiol ac yn cynnwys torri ymddiriedaeth, croesi ffiniau a throseddu’n ddwys yn erbyn synnwyr y goroeswyr ohonynt eu hunain.

Y peth pwysicaf i’w gofio yw mai ‘profiad’ y plentyn yw hyn. Fel plentyn, dydych chi ddim yn gallu cydsynio mewn unrhyw ffordd, siâp neu ffurf.

Yn Cerrig Camu rydym yn cydnabod pob mathau o brofiadau ac ymddygiadau fel camdriniaeth rywiol;

  • Os yw rhywun wedi gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus drwy siarad yn rhywiol neu ddangos defnyddiau rhywiol i chi.
  • Os yw wedi’i gyffwrdd/chyffwrdd mewn modd rhywiol amhriodol gan rywun. Gallai’r cyffyrddiad hwn fod am eiliad yn unig, drwy ddillad, ac ymddangos yn ddiniwed neu’n ddamweiniol ar yr wyneb ond y mae’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus.
  • Os ydych wedi gorfod gweld oedolion yn gwneud gweithgareddau rhywiol.
  • Os yw rhywun wedi siarad â chi mewn ffordd amlwg o rywiol.
  • Os ydych wedi cael eich gorfodi i ymddwyn mewn ffordd rywiol gydag eraill neu duag at eraill, yn oedolion neu’n blant.
  • Os ydych wedi gorfod gwneud unrhyw beth oedd yn teimlo’n rhywiol neu’n amhriodol, i berson arall. Mae hyn yn wir p’un a oeddech chi’n credu eich bod yn ei wneud o’ch gwirfodd ai peidio.

Mae’n amhosibl i blentyn wneud y mathau hyn o benderfyniadau drostynt eu hunain, hyd yn oed pan fyddan nhw’n teimlo eu bod yn gallu gwneud hynny.

Mae mathau mwy amlwg o gamdriniaeth rywiol hefyd, yn cynnwys treiddio, ond nid ydynt wedi eu cyfyngu i hynny.

Dydy’r rhestr hon ddim yn cynnwys popeth ond mae’n rhoi syniad i chi o’r amrywiaeth eang o bethau sy’n gallu golygu camdriniaeth rywiol.

Mae’r rhain i GYD, a mwy, yn brofiadau yr ydym ni yn Cerrig Camu’n gwybod eu bod yn gallu cael effaith niweidiol ar fywydau, yn aml am gyfnod hir iawn.

Gallai’r gamdriniaeth fod wedi digwydd unwaith neu nifer o weithiau – nid pa mor aml y mae rhywbeth yn digwydd sy’n penderfynu a yw’n gamdriniaeth rywiol. Weithiau mae rhywbeth sy’n digwydd unwaith yn gallu cael effaith sylweddol hefyd.

Yn olaf, mae adegau pan mae troseddwyr yn sicrhau ymddiriedaeth plant a phobl ifanc drwy adeiladu perthynas gadarnhaol a chariadus â nhw. Mewn sefyllfa felly, mae’n gallu teimlo’n anodd iawn, os nad yn amhosibl, i beidio gwneud yr hyn y maen nhw’n ei ofyn. Yr enw ffurfiol ar hyn yw ‘paratoi’ a gall ddigwydd mewn nifer o wahanol ffurfiau. Yn aml iawn mae’n gallu arwain pobl sydd wedi cael eu cam-drin i deimlo mai eu bai nhw yn rhannol yw’r hyn sydd wedi digwydd. Dydy hynny byth yn wir, ond rydym yn deall y gallai deimlo felly weithiau.

Mae’r ‘diffiniadau ffurfiol’ yn bwysig mewn lleoliadau ffurfiol. Dydy Cerrig Camu ddim yn un o’r lleoliadau ffurfiol hynny, mae’n fan lle’r ydym yn deall bod amrywiaeth enfawr o brofiadau’n rhan o’r hyn sy’n gamdriniaeth rywiol. Mae pob unigolyn a phob sefyllfa’n unigryw. Rydym yn arbenigwyr mewn gweithio gyda phobl sydd wedi bod trwy brofiadau fel hyn, ac mewn helpu’r bobl hynny i symud ymlaen gyda’u bywydau a byw’n dda.

Pwy sy’n gysylltiedig?

Mae camdriniaeth rywiol yn digwydd ymhob dosbarth cymdeithasol, waeth beth yw eu hoedran neu ryw.

Mae’r rhan fwyaf o’r gamdriniaeth rywiol yn digwydd gyda rhywun y mae’r person yn ei nabod yn dda, a gallai’r troseddwr fod yn aelod o’r teulu neu’n rhywun mewn sefyllfa o ymddiriedaeth.

Mae camdriniaeth rywiol yn gallu digwydd unwaith, ychydig o weithiau neu gall fynd ymlaen am flynyddoedd lawer a gall bobl gael eu cam-drin gan fwy nag un person.

Gall y troseddwyr fod o unrhyw ryw.

Sut all camdriniaeth rywiol effeithio ar bobl?

Gall camdriniaeth rywiol effeithio ar bob rhan o fywyd oedolyn.

Efallai nad oes effaith amlwg o ddydd i ddydd, ond gall rhywbeth ddigwydd i sbarduno teimladau, atgofion neu hyd yn oed ymatebion na ellir eu hesbonio.

Gall yr effaith fod yn fwy sylweddol na hynny a gall effeithio ar fywyd a pherthnasoedd o ddydd i ddydd, yn cynnwys perthnasoedd agos a rhywiol

Gall yr effaith fod yn fwy pellgyrhaeddol hefyd, yn cynnwys problemau iechyd meddwl difrifol.

Mae tystiolaeth gynyddol i ddangos bod camdriniaeth rywiol, yn ogystal â mathau eraill o gamdriniaeth ac esgeulustod, yn gallu effeithio ar iechyd corfforol hefyd.

Unwaith eto, mae’r effaith yn unigryw i’r unigolyn, a does gan neb yr hawl i feirniadu’r ffordd y mae camdriniaeth wedi effeithio ar fywyd rhywun