Hunan-niweidio
Hunan-niweidio yw rhywun yn niweidio neu’n anafu eu cyrff yn fwriadol fel ffordd o fynegi neu ymdopi gyda theimladau, atgofion neu brofiadau sydd wedi mynd yn ormod iddyn nhw. Er bod hunan-niweidio yn gwneud i rai pobl deimlo’n well ac yn eu helpu i ymdopi’n well yn y tymor byr, gall hefyd godi teimladau cymhleth ac anghyfforddus (fel euogrwydd neu gywilydd) a allai wneud i’r person deimlo’n waeth yn y tymor hir. Gallai hefyd arwain at anaf difrifol, salwch neu farwolaeth.
Am fod pobl sy’n hunan-niweidio’n gallu pryderu am ymatebion pobl eraill i’w hymddygiad, mae’n bosibl y byddan nhw’n ei gadw’n gyfrinach, er nad yw hyn yn wir bob amser.
Mae rhai pobl wedi disgrifio hunan-niweidio fel ffordd o:
- Fynegi rhywbeth sy’n anodd ei roi mewn geiriau
- Trosglwyddo poen emosiynol yn boen corfforol
- Cael teimlad o reolaeth dros eich corff
- Dianc rhag atgofion trawmatig
- Rhoi gwybod i bobl eraill faint o drallod yr ydych ynddo
- Gostwng teimladau neu feddyliau sy’n eich llethu
- Atal y teimlad o fod wedi datgysylltu neu’r sefyllfa o fethu teimlo dim byd
- Mynegi teimladau o fod eisiau cymryd eich bywyd ond heb eich lladd eich hun
- Cosbi eich hun am wendidau neu fethiannau a welwch ynoch eich hun
Mae eich helpu eich hun i stopio hunan-niweidio yn gallu bod yn brofiad grymusol a chadarnhaol iawn ond gall hefyd gymryd amser a chynnwys cyfnod anodd lle gallai hen ffyrdd o ymddwyn ddychwelyd ar ôl cyfnod o wella. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig cydnabod nad ydych wedi methu ond ei fod yn rhan o’r broses o stopio.
Os byddwch yn cadw dyddiadur neu gofnod o’r hyn sy’n digwydd cyn, yn ystod ac ar ôl i chi hunan-niweidio, bydd yn eich helpu i ddeall beth sy’n achosi i chi hunan-niweidio, pryd y bydd pwl o hunan-niweidio ar fin digwydd efallai a pha gymhellion sy’n gyrru eich ymddygiad.
Dyma enghreifftiau o gymhellion:
- Calon yn rasio, teimlo’n gyfoglyd neu anadlu’n gyflym
- Teimladau o fod wedi eich datgysylltu oddi wrthych eich hun neu wedi colli pob teimlad
- Meddyliau penodol fel ‘torra dy hun’ neu ‘gwna fe’
- Teimladau trwm neu niwlog
- Teimladau cryf fel ofn, trallod neu ddicter
Mae dewis tynnu eich sylw eich hun oddi wrth y syniad o hunan-niweidio’n gallu bod yn ffordd effeithiol o gymryd rheolaeth dros y cymhellion. Mae nifer o wahanol strategaethau y mae pobl yn eu defnyddio i dynnu eu sylw eu hunain oddi wrth y cymhelliad i hunan-niweidio: pwnio clustogau, sgriblan ar bapur, canolbwyntio ar arafu eu hanadl, gwrando ar gerddoriaeth, siarad â rhywun, rhedeg, rhwygo papur, plygu dillad, peintio a thynnu llun.
fallai y byddwch chi’n gweld bod rhai ffyrdd o dynnu sylw’n gweithio mewn rhai sefyllfaoedd ond nid mewn eraill, ac yna gallwch weithio ar greu math o ‘ddewislen’ o weithgareddau tynnu sylw ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd. Mae oedi yn dechneg arall sy’n gallu helpu – arhoswch am ddeg munud cyn hunan-niweidio ac yna gwnewch y cyfnodau aros yn hirach a hirach. Gallech chi ddechrau hunan-niweidio eto ond byddwch wedi profi i chi’ch hun bod gennych rywfaint o reolaeth dros yr hyn a wnewch chi a gallwch adeiladu ar hynny.
Efallai y bydd gweithio mewn amgylchedd diogel gyda chwnselydd sy’n feddwl agored a ddim yn eich beirniadu chi’n rhoi’r amser a’r lle i chi ddeall y rhesymau pam yr ydych yn hunan-niweidio a’r teimladau a ddaw law yn llaw gyda hynny.