Ymchwiliadau i gam-drin plant yn rhywiol: canllaw i rieni a gofalwyr

Mae gan lawer o rieni a gofalwyr deimladau o sioc, dryswch, dicter neu ofn ar ôl iddynt ddarganfod y gallai eu plentyn fod wedi cael ei gam-drin yn rhywiol. Efallai eich bod hefyd yn profi teimladau cryf ar hyn o bryd.

Dyna pam rydym wedi creu canllaw sy’n rhoi gwybodaeth ymarferol i chi am yr hyn a fydd yn digwydd os bydd ymchwiliad i’ch plentyn gael ei gam-drin yn rhywiol. Mae’n cynnwys dolenni i wybodaeth ar gefnogi plant, y broses o archwiliadau meddygol, ac erlyn, gan gynnwys lle mae’r heddlu neu
Wasanaeth Erlyn y Goron yn penderfynu peidio mynd ymlaen ag achos

Darllenwch y canllaw isod neu, neu lawrlwythwch English child sexual abuse investigations leaflet (pdf) neu’r Daflen Gymraeg ar ymchwiliadau i gam-drin plant yn rhywiol (pdf).

Mae’n bwysig cydnabod effaith y sefyllfa hon ar eich plentyn, arnoch chi, a’r rhai o’ch cwmpas. Cymerwch gamau i edrych ar ôl eich hun, dewch o hyd i gefnogaeth i chi a’ch teulu, a gwybod nad oes unrhyw ffordd gywir nac anghywir o deimlo yn y sefyllfa hon

Beth ddylwn ei wneud gyntaf?

Sut ddylwn i ymateb?

Os yw eich plentyn wedi dweud unai wrthych chi neu rywun arall am ei gamdriniaeth, mae’n hanfodol gwrando arnynt a rhoi sicrwydd iddynt eu bod wedi gwneud y peth iawn wrth siarad am yr hyn sydd wedi digwydd.

Mae’n bwysig bod eich plentyn yn gwybod bod yr hyn mae nhw wedi’i ddweud yn cael ei gymryd o ddifrif ac y cânt eu hamddiffyn, ac nad eu bai hwy oedd yr hyn a ddigwyddodd iddynt.

Os mai chi yw’r person cyntaf y maent wedi dweud wrtho, bydd angen i chi rannu eich pryderon gyda’r heddlu, ac egluro i’ch plentyn beth fydd yn digwydd nesaf a sut y bydd yn cael ei gefnogi.

Gallwch chi siarad â rhywun

Mae llinell gymorth gyfrinachol Stop It Now! yn gweithio i atal cam-drin plant yn rhywiol a chefnogi pobl sydd eisiau help i amddiffyn plant. Bydd y cynghorwyr profiadol yn gwrando ac yn cynnig cyngor a chefnogaeth gyfrinachol. Pan fyddwch yn ffonio, nid oes rhaid i chi roi eich enw na’ch manylion personol os nad ydych chi eisiau gwneud hynny.

Efallai mai dyma’r amser cywir i chi ffonio’r llinell gymorth a dechrau siarad am ba help sydd ei angen arnoch chi. Os nad ydych yn barod i siarad â rhywun, gallwch anfon neges ddiogel atynt neu ddefnyddio eu sgwrs fyw ar-lein.

Ffoniwch 0808 1000 900 neu ewch i’n dudalen llinell gymorth.

Pethau i’w cofio

  • Cael sgyrsiau agored – gadewch i’ch plentyn wybod eich bod chi yno ar eu cyfer ac y byddwch chi’n gwrando arnynt. Dylech gael sgyrsiau agored am eu teimladau a rhoi amser a lle iddynt siarad.
  • Peidiwch â beio’ch hun na’ch plentyn am yr hyn a ddigwyddodd – gall fod yn anodd i ni fel oedolion ddeall sut y gall camdriniaeth rywiol ddigwydd heb i ni wybod. Ond o’r gwaith rydym wedi wneud gyda phlant sydd wedi profi camdriniaeth rywiol, gall clywed oedolion sy’n agos atynt yn dweud ‘Rwy’n eich credu’ ac ‘nid ydych ar fai am yr hyn sydd wedi digwydd’ fod yn ddefnyddiol ac yn gefnogol i lawer o blant.
  • Gofynnwch gwestiynau pwysig er mwyn sicrhau diogelwch eich plentyn, ond peidiwch â gofyn unrhyw gwestiynau arweiniol. Pan fydd eich plentyn yn siarad am y gamdriniaeth, dylech ddeall, trwy rannu hyn gyda chi, ei fod yn eu helpu i wneud mwy o synnwyr o’r cyfan. Byddant yn profi ystod o deimladau, rhai y gallent fod yn anodd ymdopi â hwy.
  • Gwybod eich terfynau eich hun – cydnabod y gallai fod yn anodd ymdopi â’ch emosiynau eich hun ar brydiau. Bydd angen cefnogaeth arnoch chi gan eraill i’ch helpu chi i brosesu’r hyn sydd wedi digwydd. Mae’n arferol teimlo’n ddig ac yn ofidus, ond ceisiwch beidio â dan-gos hyn i’ch plentyn gan y gallent feddwl eich bod yn ddig gyda hwy am yr hyn sydd wedi digwydd. Gallwch gysylltu a llinell gymorth gyfrinachol Stop It Now! os oes gennych eraill i siarad â hwy am gefnogaeth neu beidio.
  • Ar ôl dweud – bydd llawer i’w gofio, felly gwnewch nodiadau o bethau a ddywedir wrthych gan eich plentyn neu gan weithwyr proffesiynol gan y gall hyn eich helpu nawr ac yn y tymor hir.
    Efallai y byddwch hefyd yn gweld ei fod yn helpu i ysgrifennu unrhyw rai o’ch pryderon i lawr, oherwydd gall hyn eich helpu i deimlo bod gennych reolaeth ar yr hyn sydd yn digwydd.
    • Helpwch eich plentyn i fod ac i deimlo’n ddiogel. Beth bynnag sydd wedi digwydd o’r blaen, rhaid i’ch plentyn deimlo’n ddiogel rhag niwed nawr. Ac os ydych chi yn parhau i boeni y gallai eich
    plentyn neu blant eraill fod mewn perygl o gael eu cam-drin, mae angen i chi ddweud wrth yr heddlu neu’r awdurdod lleol, hyd yn oed os yw hyn yn teimlo’n frawychus.
    • Datblygu cynllun diogelwch teulu – mae’n arferol poeni am risgiau pellach posib i’ch plentyn. Gall gwneud cynllun diogelwch teulu eich helpu i gymryd camau ymarferol i
    gadw’ch plentyn yn ddiogel.
    • Lle y gallaf gael cyngor a chefnogaeth ar gyfer fy mhlentyn a minnau?

Ynglŷn â cham-drin plant yn rhywiol

Beth yw cam-drin plant yn rhywiol?

Mae cam-drin plant yn rhywiol yn cynnwys gorfodi neu ddenu plentyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol, unai os yw’r plentyn yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd neu beidio. Gall gynnwys cyswllt corfforol neu weithgareddau di-gyswllt, megis cynnwys plant wrth edrych ar, neu wrth gynhyrchu, deunydd pornograffig neu wylio gweithgareddau rhywiol, neu annog plant i ymddwyn mewn ffyrdd rhywiol amhriodol.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am gam-drin plant yn rhywiol, ewch i’r safle:  Parents Protect 

Sut gall cam-drin rhywiol effeithio ar fy mhlentyn?

Mae cam-drin plant yn rhywiol yn effeithio ar wahanol blant mewn gwahanol ffyrdd. I rai plant, nid yw’r effaith yn glir ar unwaith, tra bod plant eraill yn arddangos ystod o emosiynau ac ymddygiadau. Gall camdriniaeth gael effeithiau parhaol a niweidiol ar rai plant, megis ofn, trallod, cywilydd, beio eu hunain, hunan-barch isel, dicter neu golli cof.

Sut bynnag mae eich plentyn yn ymateb, mae’n bwysig ei fod yn cael help a chefnogaeth.
Gall plant sy’n profi camdriniaeth ond sy’n cael eu diogelu a’u cefnogi gan rieni a gofalwyr
amddiffynnol wella, gan fynd ymlaen i fyw bywydau normal, hapus a chyflawn.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am effeithiau camdriniaeth rywiol ar y safle  Parents Protect:

Dweud am y gamdriniaeth a’r camau nesaf

Wrth bwy y gallaf ddweud am gamdriniaeth rywiol?

Os ydych chi’n pryderu bod plentyn yn cael ei gam-drin neu wedi cael ei gam-drin yn y gorffennol, dylech ddweud wrth yr heddlu, neu eich adran gwasanaethau cymdeithasol leol cyn gynted â phosibl. Os oes angen cefnogaeth arnoch, gallwch siarad ag ymgynghorwyr profiadol drwy gysylltu a llinell cymorth gyfrinachol Stop It Now!: 0808 1000 900.

Sut mae dweud wrth yr heddlu?

Gall dweud bod eich plentyn wedi cael ei gam-drin yn rhywiol ymddangos yn frawychus ond mae diogelwch ac anghenion eich plentyn yn flaenoriaeth i’r heddlu bob amser. Nid oes terfyn amser o ran dweud wrth yr heddlu am gamdriniaeth rywiol ar blant.

Mae tair prif ffordd o ddweud am drosedd:

• Mewn argyfwng, pan fydd plentyn mewn perygl o gael ei gam-drin neu’r gamdriniaeth yn digwydd ar hyn o bryd, dylech ffonio’r heddlu ar 999.
• Os yw’ch plentyn wedi dweud wrthych chi am gamdriniaeth rywiol, dylech ffonio’r heddlu ar 101.
• Gallwch hefyd ddweud wrthynt ar-lein.

Gall eich plentyn hefyd gysylltu â’r heddlu ei hun i ddweud am gamdriniaeth rywiol.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am sut i ddweud am gamdriniaeth, drwy fynd i’r safle Parents Protect.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd swyddog o’r heddlu yn cwrdd â chi i gymryd rhywfaint o fanylion, a bydd eich plentyn yn cael ei
gyfeirio at swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig a’u gwaith yw ymchwilio i droseddau rhywiol. Bydd eich plentyn yn cael ei gyfweld a gofynnir iddo egluro yn ei eiriau ei hun beth sydd wedi digwydd. Bydd y cyfweliad yn cael ei gynnal mewn man preifat, cyfforddus a chyfeillgar i blant. Gall eich plentyn gymryd hyn ar ei gyflymder ei hun a bydd ei ddatganiad yn cael ei gofnodi mewn ffordd sy’n gyfeillgar i blant er mwyn sicrhau y gellir ei defnyddio fel tystiolaeth mewn unrhyw achos cyfreithiol yn y dyfodol.

Fel rhiant neu ofalwr efallai yr hoffech chi aros gyda’ch plentyn yn ystod eu cyfweliad, ond gofynnir i chi fynd i ystafell arall lle efallai y gallwch chi arsylwi. Os gwelsoch y gamdriniaeth yn digwydd neu mai chi oedd y person cyntaf y dywedodd eich plentyn wrtho, yna ni chaniateir ichi arsylwi. Bydd hyn er mwyn sicrhau y gellir defnyddio unrhyw dystiolaeth o’r cyfweliad mewn unrhyw achos cyfreithiol yn y dyfodol.

Bydd swyddog o’r heddlu yn ymchwilio i achos eich plentyn a bydd yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â
chi er mwyn eich diweddaru

Beth os oes gan fy mhlentyn anghenion dysgu ychwanegol?

Os oes gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol yna efallai eich bod yn poeni am sut y bydd yn ymdopi neu’n derbyn gofal. Mae gan yr heddlu swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig sy’n
gallu cefnogi’ch plentyn trwy’r broses. Bydd y swyddog hwn yn sicrhau bod eich plentyn yn cael ei
drin â sensitifrwydd a dealltwriaeth.

A fydd angen archwiliad meddygol ar fy mhlentyn?

Ar ôl y cyfweliad efallai y gofynnir i’ch plentyn gytuno i archwiliad meddygol. Mae hyn er mwyn helpu i ddarparu mwy o dystiolaeth i’r heddlu. Fe’u cyfeirir at Ganolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol, sydd â meddygon, nyrsys a gweithwyr cymorth sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig, a elwir yn gynghorwyr
trais rhywiol annibynnol, sy’n gallu rhoi cefnogaeth feddygol ac emosiynol i’ch plentyn. Mae dwy Ganolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol yng Nghymru gyda staff wedi’u hyfforddi i weithio gyda
phlant: un ym Mae Colwyn ac un yng Nghaerdydd. Yn ddelfrydol, dylid cynnal unrhyw archwiliad meddygol cyn gynted â phosibl, a bydd meddygon arbenigol yn trafod pryd yw’r amser gorau i’ch
plentyn gael ei archwilio.

Beth mae archwiliad meddygol yn ei olygu?

Nid yw archwiliadau meddygol bob amser yn bersonol a gall archwiliad cyffredinol fod yn ddefnyddiol wrth ganfod anghenion iechyd eraill a allai fod gan eich plentyn sydd heb gael eu canfod o’r blaen. Cyn i’ch plentyn gael ei archwilio, bydd trafodaeth rhwng y cyfeiriwr (er enghraifft yr heddlu) a’r
tîm meddygol er mwyn eu hysbysu o’r amgylchiadau. Ar ôl i’ch plentyn gael ei gyfeirio, efallai y gofynnir ichi beidio â golchi na newid ei ddillad neu beidio â chaniatáu iddynt olchi eu hunain.
Mae hyn oherwydd y gallai tystiolaeth hanfodol gael ei cholli ac mae casglu tystiolaeth yn bwysig ar gyfer ymchwiliad yr heddlu.

Efallai y bydd swyddog o’r heddlu neu weithiwr cymdeithasol gyda chi yn y Ganolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol, lle bydd eich plentyn yn cael ei weld gan bediatregydd neu archwiliwr meddygol fforensig, yn dibynnu ar ei oedran. Ar ôl cyrraedd, bydd staff sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn cwrdd â chi ac yn esbonio’n fanwl beth fydd yn digwydd. Byddant hefyd ynesbonio’r broses i’ch plentyn, gan ddefnyddio lluniau os yw’n briodol ar gyfer oedran eich plentyn. Bydd eich plentyn yn cael ei sicrhau mai dewisiol yw’r archwiliad. Bydd modd iddynt gymryd sawl torriad yn ôl yr angen ac yn cael methu cam neu stopio’r archwiliad ar unrhyw adeg maent eisiau. Gall yr archwiliad barhau hyd at ddwy awr

Beth sy’n digwydd ar ôl yr archwiliad?

Gall canlyniadau’r arhwiliad gymryd sawl wythnos, a chlustnodir gynghorwyr trais rhywiol annibynnol i’ch plentyn a fydd yn eu cefnogi hwy a chi trwy’r broses. Bydd eich plentyn fel arfer yn cael cynnig apwyntiadau dilynol yn eich clinig iechyd rhywiol lleol neu gyda phediatregydd lleol, a bydd gwasanaethau cwnsela ar gael hefyd. Gall y gwasanaethau rhwng y ddwy Ganolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol amrywio.

A fydd gwasanaethau cymdeithasol plant yn cymryd rhan?

Pan mae’r heddlu yn derbyn gwybodaeth am achos o gam-drin plant yn rhywiol, byddant yn cysylltu â gwasanaethau cymdeithasol plant er mwyn helpu i gadw’ch plentyn mor ddiogel â phosib. Efallai y bydd gweithiwr cymdeithasol yn ymweld â chi a’ch plentyn i siarad am ba gymorth y gallant ei roi i chi. Os yw’ch teulu eisoes yn ymwneud â’r gwasanaethau cymdeithasol, yna bydd gweithiwr cymdeithasol a glustnodwyd i’ch plentyn yn cael gwybod, a byddant yn cysylltu â chi i drafod yr hyn sydd wedi digwydd.

Os ydych chi’n ofalwr maeth, gall y gwasanaethau cymdeithasol alw cyfarfod strategaeth i archwilio eu hymateb o ran pa wybodaeth y gellir ei rhannu a pha gefnogaeth y gall y plentyn a chithau fod ei angen

Cysylltwch â’ch gwasanaethau cymdeithasol lleol drwy GIG Cymru.

Ymchwiliad ac erlyniad

Beth sy’n digwydd yn ystod ymchwiliad yr heddlu?

Gallai’r ymchwiliad gynnwys cyfweld â’ch plentyn, tystion a’r unigolyn yr honnir iddo gyflawni’r
gamdriniaeth. Efallai hefyd y bydd yn cynnwys archwilio deunyddiau eraill, megis tystiolaeth
feddygol neu ddyfeisiau electronig. Tra mae’r heddlu’n cynnal eu hymchwiliad, gall y person yr
honnir iddo gyflawni’r gamdriniaeth gael ei roi ‘dan ymchwiliad’. Mae hyn yn golygu eu bod wedi cael
eu rhyddhau o’r ddalfa heb gyhuddiad a heb amodau mechnïaeth, a bod yr ymchwiliad yn parhau.

Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Trosedd yn cynnwys rhai hawliau i’ch plentyn, gan
gynnwys gwybodaeth y mae ganddynt hwy a chithau yr hawl i’w gael gan yr heddlu

Dylech glywed o fewn un diwrnod gwaith:

  • Ar ôl i’r sawl sydd dan amheuaeth gael ei arestio.
  • Os oes gwarant wedi’i chyhoeddi oherwydd diffyg presenoldeb y sawl sydd dan amheuaeth
    yn y llys.

O fewn dau ddiwrnod i roi gwybod am gamdriniaeth:

  • Dylai’r heddlu drosglwyddo manylion eich plentyn i Cymorth i Ddioddefwyr oni bai eich bod
    yn gofyn iddynt beidio â gwneud hynny.

Dylech glywed o fewn pum diwrnod gwaith:

  • Os nad yw’r drosedd yn cael ei hymchwilio.
  • Os rhoddir gwarediad y tu allan i’r llys i’r sawl sydd dan amheuaeth, fel rhybudd neu gerydd.
  • Os bydd y sawl sydd dan amheuaeth yn cael ei gyfweld o dan rybudd; rhyddhau heb gyhuddiad
    neu gydag amodau mechnïaeth; neu os yw amodau eu mechnïaeth wedi newid neu yn cael
    ei newid mewn unrhyw ffordd.
  • Cael gwybodaeth ysgrifenedig am yr hyn i’w ddisgwyl gan y system cyfiawnder troseddol.

Darganfyddwch fwy am ba gymorth sydd ar gael ar y safle Cymorth i Ddioddefwyr neu drwy God Ymarfer y Llywodraeth.

Ar ôl i’r heddlu ymchwilio i’r sawl sydd dan amheuaeth, hwy fydd yn penderfynu beth sy’n
digwydd nesaf. Gall yr heddlu:

  • rybuddio’r sawl sydd dan amheuaeth
  • peidio â chymryd unrhyw gamau pellach
  • cyfeirio’r achos at Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS).

Beth yw Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS)?

Mae’r CPS yn annibynnol i’r heddlu. Eu gwaith yw sicrhau bod y cyhuddiadau cywir yn cael eu
rhoi yn erbyn y rhai sydd dan amheuaeth, i baratoi achosion i’w cyflwyno yn y llys, ac i ddarparu
cyngor a chefnogaeth i ddioddefwyr a thystion.

Wrth benderfynu a ddylid cyhuddo rhywun am droseddau, rhaid i’r CPS fod yn fodlon bod digon
o dystiolaeth i ddarparu gobaith realistig o euogfarn, a bod erlyn yr achos er budd y cyhoedd.

Os bydd y CPS yn penderfynu cyhuddo’r sawl sydd dan amheuaeth ac mae’r achos yn mynd
ymlaen i wrandawiad llys, byddwch chi a’ch plentyn yn cael gwybod y dyddiad, yr amser a’r
lleoliad. Os ydych chi’n bryderus nad ydych wedi derbyn yr wybodaeth hon dylech gysylltu â’r
swyddog ymchwilio.

Yn yr amser rhwng cyhuddo’r sawl sydd dan amheuaeth a’i ymddangosiad cyntaf yn y llys,
byddant yn cael eu rhyddhau ar fechnïaeth neu eu cadw yn y ddalfa, sy’n golygu y byddant yn
treulio amser mewn carchar tan ddyddiad y llys. Caiff hyn ei benderfynu ar ôl ystyried y canlynol:

• asesiad o’r risg y gallai’r sawl sydd dan amheuaeth ei pheri i’ch plentyn, y cyhoedd ac unrhyw
dystion
• troseddau blaenorol y gallai’r person fod wedi’u cyflawni
• cydymffurfiad blaenorol y sawl sydd dan amheuaeth ag amodau mechnïaeth
• pa mor debygol yw hi y bydd y sawl sydd dan amheuaeth yn methu â mynychu ei
ymddangosiad llys.

Os rhoddir mechnïaeth i’r sawl sydd dan amheuaeth efallai y bydd amodau yn cael eu gosod
arnynt a bydd rhaid iddynt gadw atynt. Gallai’r rhain gynnwys sicrhau nad ydynt yn cysylltu â chi
neu eich plentyn yn uniongyrchol neu drwy bobl eraill.

Gallwch ganfod rhagor am y Cod Ymarfer i Erlynwyr y Goron ar eu safle.

Beth fydd yn digwydd yn y llys?

Gellir delio â rhai troseddau yn y Llys Ieuenctid neu Lys Ynadon. Mae ynadon yn wirfoddolwyr hyfforddedig sy’n gwrando ar achosion mewn llysoedd yn eu cymuned. Gallant osod amrywiaeth
o ddedfrydau, ond os ydynt yn credu nad oes ganddynt y pwerau cywir ar gyfer dedfrydu, gallent gyfeirio’r diffynnydd i Lys y Goron lle y gellid rhoi dedfryd o garchar.

Mae Llys y Goron yn delio â’r troseddau mwyaf difrifol. Barnwyr sy’n llywyddu’r llysoedd hyn sydd wedi’u hyfforddi’n llawn yn y gyfraith.

• Os bydd diffynnydd yn pledio yn ddi-euog yn Llys y Goron, bydd yr achos yn cael ei glywed o flaen rheithgor. Os ceir diffynnydd yn euog, bydd y barnwr yn penderfynu ar y ddedfryd
a gânt.
• Os bydd diffynnydd yn pledio’n euog, bydd yn cael ei ddedfrydu naill ai ar y dyddiad hwnnw neu ddyddiad yn ddiweddarach.

Os oes angen i’ch plentyn roi tystiolaeth, mae ganddo hawl i gymorth arbennig. Rhoddir y mesurau hyn ar waith er mwyn helpu tystion sy’n agored i niwed roi eu tystiolaeth orau yn y llys, ac i geisio lleihau rhywfaint o’r straen iddynt. Gallai’r mesurau hyn gynnwys staff y llys yn tynnu eu gwallt gosod a’u gwisgoedd i’w gwneud yn llai bygythiol i blant; defnyddio sgriniau yn ystafell y llys neu ddolenni fideo; neu roi tystiolaeth fideo sydd wedi cael ei recordio ymlaen llaw.

Efallai y byddant hefyd yn cael cynnig ymweliad cyn y gwrandawiad fel eu bod yn dod i arfer ac edrychiad y llys. Mae pwerau hefyd i ddarparu anhysbysrwydd gydol oes i dystion a dioddefwyr o dan 18 oed ar adeg ymddangosiad yn y llys.

Gall gwrandawiadau sy’n ymwneud â throseddau rhywiol yn erbyn plant fod yn cael ei gynnal yn breifat neu heb y wasg neu’r cyhoedd yn bresennol, lle mae’r llys yn credu bod angen hyn i ddarparu’r dystiolaeth orau. Fodd bynnag, nid oes hawl awtomatig i wrandawiad caeedig a bydd penderfyniadau ar hyn yn cael ei wneud ar sail unigol.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am gymorth tystion a dioddefwyr ar wefan Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Beth yw ystyr ‘dedfrydu’?

Ar ôl i ddiffynnydd gael ei ddyfarnu’n euog o drosedd yn y llys trwy bledio’n euog neu ar ôl ei gael yn euog yn dilyn gwrandawiad, bydd yr ynad neu’r barnwr yn ystyried pa ddedfryd i’w rhoi, yn seiliedig ar ganllawiau penodol.

Darganfyddwch fwy am ganllawiau dedfrydu drwy wefan y Cyngor Dedfrydu

Gallai dedfrydau gynnwys bod y diffynnydd yn:
• cael ei anfon i’r carchar
• derbyn dedfryd o garchar wedi’i ohirio
• derbyn dedfryd gymunedol, fel adsefydlu, gwasanaeth cymunedol neu gynnal
gweithgareddau penodol
• cael ei atal rhag ymweld ag ardaloedd penodol neu gysylltu â phobl penodol.

Os yw’r diffynnydd yn derbyn dedfryd o garchar o fwy na 12 mis, dylech gael cynnig cyswllt i chi a’ch plentyn drwy’r Cynllun Cyswllt Dioddefwr Prawf. Byddant yn eich diweddaru ac yn rhoi cyfle i chi fynegi eich barn am unrhyw amodau sy’n gysylltiedig â dioddefwyr y gellid eu rhoi ar y diffynnydd ar ôl ei ryddhau o’r carchar.

Bydd yr holl ddiffynyddion sy’n pledio’n euog neu’n eu cael yn euog o drosedd rywiol yn erbyn plentyn, gan gynnwys y rhai sy’n cael rhybudd gan yr heddlu neu’n derbyn unrhyw ddedfryd llys, yn cael eu rhoi ar y gofrestr troseddwyr rhyw. Bydd hyd yr amser ar y gofrestr yn cael ei bennu gan eu dedfryd.

Pam nad oedd erlyniad?

Efallai y bydd y CPS yn penderfynu peidio â chyhuddo y sawl sydd dan amheuaeth,
neu beidio â pharhau ag achos, os credant nad oes digon o dystiolaeth. Mae gan
ddioddefwyr yr hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad hwn dan gynllun Hawl y
Dioddefwr i Adolygiad.

Darganfyddwch fwy am gynllun Hawl y Dioddefwr i Adolygiad ar y dudalen Cymorth i Ddioddefwyr.

Cymorth a chefnogaeth

Mae llinell gymorth cyfrinachol Stop It Now! yn cefnogi unrhyw un sydd â phryder ynghylch atal cam-drin plant yn rhywiol. Bydd eu cynghorwyr profiadol yn gwrando ac yn eich helpu i weithio allan
beth fyddai’r camau gorau i chi a’ch plentyn eu cymryd. Os nad ydych yn barod i siarad â rhywun, gallwch ddefnyddio eu gwasanaeth sgwrsio byw a neges ddiogel. Ffoniwch 0808 1000 900 neu ewch i’n tudalen llinell gymorth.

Mae gan ein gwefan Parents Protect gyngor a gwybodaeth sy’n helpu rhieni a gofalwyr i gadw plant yn ddiogel, gan gynnwys gwybodaeth am gynlluniau diogelwch teulu a sut i gefnogi plant sy’n datgelu
camdriniaeth.

Mae NSPCC Cymru yn cynnig cefnogaeth i blant sydd wedi bod, neu sydd mewn perygl o, gamdriniaeth rywiol a grwmio. Mae ganddynt ganolfannau yn Abertawe, Caerdydd a Phrestatyn.

Darganfyddwch fwy am y gwasanaethau i blant a’r canolfannau gwasanaethau NSPCC.

Mae Cymrth i Ddioddefwyr yn helpu dioddefwyr trosedd – dylai’r heddlu eich cyfeirio at eu gwasanaethau pan fyddwch yn dweud wrthynt am gamdriniaeth, ond mae modd i chi gyfeirio eich
hunan atynt hefyd. Gall eu gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig hefyd gefnogi rhieni a gofalwyr fel y gallwch chi helpu’ch plentyn trwy’r broses cyfiawnder troseddol.

PACE
Mae Rhieni yn erbyn Ecsbloetio Plant (PACE) yn gweithio gyda rhieni a gofalwyr plant sydd, neu sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio’n rhywiol. Gallwch eu ffonio am gymorth a chyngor cyfrinachol ar 0113 240 5226 neu ddefnyddio eu ffurflen gyswllt ar eu gwefan

Swyddfa Cyngor ar Bopeth

Gall Swyddfa Cyngor ar Bopeth gynnig cyngor a chefnogaeth ar ystod o faterion. Gallwch ddarganfod mwy am eu gwasanaethau trwy ymweld a’u gwefan.

Canolfan Cymorth i Ddioddefwyr Gogledd Cymru: 0300 30 30 159

Ffocws Dioddefwyr De Cymru: 0300 303 0161

Cysylltu Gwent: 0300 123 2133

Gwasanaeth Tystion Cyngor ar Bopeth Dyfed-Powys: 0300 3321 000

Cysylltu â Hawl y Dioddefwr i Adolygiad drwy ddefnyddio Cyswllt i Ddioddefwyr [email protected]

Neu gallwch ffonio tîm Hawl y Dioddefwr i Adolygiad 02920 803966

Dweud wrth yr heddlu am droseddau

Heddlu Dyfed Powys

Heddlu Gwent

Heddlu Gogledd Cymru

Heddlu De Cymru

Cyngor Dedfrydu

Dod o hyd i’ch gwasanaethau cymdeithasol lleol a chysylltu â hwy