Canllaw i’n gwasanaethau cwnsela ar gyfer goroeswyr

Rydym yn deall mor anodd yw hi’n aml iawn i gymryd y cam cyntaf i ofyn am gymorth a diolch yn fawr i chi am gysylltu â ni.

Ein nod yw rhoi cymorth i chi gyda’ch profiadau o oroesi camdriniaeth rywiol fel plentyn. Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau i’ch helpu i ddeall effeithiau eich camdriniaeth fel eich bod yn gallu eich gwella eich hun o’ch profiadau a symud ymlaen gyda’ch bywyd.

Hunangyfeirio

Llenwi ein ffurflen hunangyfeirio ffurflen hunangyfeirio yw eich pwynt cysylltu cyntaf gyda Cherrig Camu Gogledd Cymru. Ein nod yw cysylltu â chi o fewn pedair wythnos i gadarnhau eich cyfeiriad ac, unwaith y byddwn wedi gwneud hynny, byddwn yn cysylltu â chi drwy eich dewis ddull o gyfathrebu i’ch gwahodd i ddod i asesiad cyntaf.

Byddwch yn cael eich asesiad cyntaf gyda chwnselydd cymwysedig a phrofiadol a byddwch, gyda’ch gilydd, yn penderfynu pa wasanaeth sy’n briodol i chi ar hyn o bryd. Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau yn cynnwys cwnsela, cyrsiau therapiwtig a gweithgareddau grŵp a byddwn yn rhoi gwybod i chi am y rhain os yw ein gwasanaeth yn addas i chi.

Yn dilyn eich asesiad cychwynnol, os yw’r gwasanaeth yn briodol i chi, cewch eich rhoi ar ein rhestr aros a byddwn yn ceisio cynnig apwyntiad sy’n cyd-fynd â’ch gofynion penodol chi a’r amseroedd rydych chi ar gael. Ar gyfer y cwnsela, rydym yn ceisio rhoi cwnselydd i chi o’r rhyw y dewiswch chi, y dull cwnsela sydd orau gennych chi – wyneb yn wyneb neu o bell (ffôn/ar-lein) ac yn yr ardal a’r iaith o’ch dewis chi.

Ar gyfer cyrsiau/gweithgareddau grŵp therapiwtig rydym yn darparu amgylchedd diogel sy’n sicrhau bod unigolion yn cael eu parchu a bod pethau’n cael eu cadw’n gyfrinachol bob amser.

Mae cymwysterau proffesiynol gan ein cwnselwyr i gyd ac mae pob un yn aelodau o Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP).

Credwn fod cwnsela’n gallu helpu os:

  • Rydych yn teimlo bod eich profiad yn eich ynysu chi
  • Rydych yn teimlo’n ddi-rym, fel dioddefwr
  • Rydych yn teimlo’n wahanol i bobl eraill
  • Rydych yn eich beio eich hun am yr hyn ddigwyddodd
  • Rydych yn teimlo’n llawn cywilydd, yn ddryslyd, yn flin neu wedi’ch brifo
  • Weithiau rydych yn teimlo fel eich anafu eich hun neu eisiau cymryd eich bywyd
  • Rydych yn teimlo na allwch eich amddiffyn eich hun

Y Broses Gwnsela

Mae’r broses gwnsela’n gallu bod yn anodd.  Ar brydiau mae rhai pobl yn gallu teimlo’n waeth nag oedden nhw cyn cychwyn y therapi. Mae hyn yn beth normal oherwydd gallwch weithio drwy deimladau anodd a chymhleth sy’n gallu codi hen atgofion poenus. Y prif beth i’w gofio yw ein bod ni yma i’ch cefnogi chi drwy hyn.

Mae pob un o’n cwnselwyr yng Ngherrig Camu Gogledd Cymru’n brofiadol ym maes trawma ac effaith camdriniaeth rywiol ar blant. Mae ein gwasanaeth cwnsela’n integreiddiol ac yn rhoi’r ffocws ar yr unigolyn ei hun yn bennaf, ac mae gan bob cwnselydd unigol ei ffordd ei hun o weithio.

Wrth weithio gyda’n cleientiaid mae gan ein perthynas ffiniau clir, dydyn ni ddim yn beirniadu ac rydym yn feddwl agored. O fewn y berthynas honno, dros amser, rydym yn gweithio i adeiladu’r ymddiriedaeth sy’n gadael i chi weithio drwy eich problemau ar eich cyflymder eich hun.

Gobeithio’n fawr y gallwn ni eich helpu chi hefyd. Felly, os byddwch chi angen cymorth cysylltwch â ni.