Fideo: Cyflwyniad i Ymarferion Tri Pheth
Hunanofal:
Mae hwn yn ddefnyddiol pan fyddwn ni:
- dan straen
- yn bryderus
- wedi codi ein rhwystrau amddiffynnol
- yn dweud y drefn wrthym ein hunain
- yn fewnblyg ac yn ein hynysu ein hunain
- yn teimlo wedi ein cloi mewn cylchoedd o feddyliau ailadroddus am ddigwyddiadau yn y gorffennol diweddar neu ymhellach yn ôl
Gyda hunan-drugaredd ofalgar, mae’r arfer hwn yn cynnig ateb i ni a fydd yn ein lleddfu, ein cysuro ac yn tawelu ein meddyliau, gan ostwng y system fygythiadau a deffro’r system o roi gofal, a’n galluogi i ddychwelyd i’r presennol ac i’n gallu i ailgysylltu gyda’n hunan fel oedolyn a chysylltu gydag eraill.