Stop It Now!

Mae Stop It Now! yn elusen ddiogelu plant, sy’n ymgyrchu ac yn codi ymwybyddiaeth ledled y DU i helpu oedolion i chwarae eu rhan mewn atal camdriniaeth rywiol ar blant drwy fynd i’r afael ag unrhyw bryderon personol, teuluol a chymunedol.

Mae ganddyn nhw linell gymorth gyfrinachol, sgwrs fyw a gwasanaeth negeseua diogel sydd ar gael i unrhyw un sydd â phryderon am gamdriniaeth rywiol ar blant ac sydd eisiau ei rwystro – p’un a ydyn nhw’n pryderu am eu meddyliau, eu teimladau a’u hymddygiad eu hunain, neu am oedolyn neu berson ifanc arall.

Gall eu taflenni a’u hadnoddau eich helpu i godi ymwybyddiaeth o, ac atal, camdriniaeth rywiol ar blant ac maen nhw’n rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Maen nhw’n hygyrch ac maen nhw ar gael yn y Gymraeg ac mewn nifer o ieithoedd eraill.

Stop It Now! Cymru.pdf

https://www.stopitnow.org.uk/wales/publications-and-resources/?utm_source=email&utm_medium=walesleaflet&utm_campaign=15june21&dm_i=48W7,13YTD,6NCSBD,528X5,1

Cysylltiadau i sefydliadau cefnogi

  • Stop it Now!

    Stop it Now! yw’r unig elusen drwy’r DU gyfan sydd wedi’i hymroddi’n gyfan gwbl i atal camdriniaeth rywiol a darparu adnoddau a llinell gymorth gyfrinachol.