Rheoli Ôl-fflachiau

  • Rydyn ni’n defnyddio’r term ôl-fflachiau i ddisgrifio’r profiad o ddigwyddiad o’r gorffennol yn cael ei ail-fyw yn y presennol
  • Yn aml iawn, mae’r teimladau sy’n cael eu creu drwy’r profiad mor real (ac yr un mor arswydus o bosib) ag oedden nhw pan gafwyd y digwyddiad gwreiddiol
  • Gallai goroeswyr camdriniaeth brofi ôl-fflachiau pan fydd rhywbeth yn eu hatgoffa nhw o ddigwyddiadau sy’n dal i achosi trallod a phoen iddyn nhw
  • Er bod ôl-fflachiau yn gallu achosi llawer o drallod gallan nhw gael eu ‘rheoli’
  • Mae ffyrdd o’u rheoli nhw ac mae ffyrdd hefyd y gall teuluoedd, cyfeillion ac eraill helpu
  • Mae pobl sydd wedi bod trwy ddigwyddiadau trawmatig yn aml yn cael ôl-fflachiau, yn enwedig os nad ydyn nhw wedi gallu siarad am yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw

 

Eich helpu eich hun

 

Mae ôl-fflachiau yn ymateb normal pan fydd eich meddwl yn ceisio ymdrin â thrawma. Os nad ydych wedi gwneud hynny’n barod, gofynnwch am gymorth.

Ceisiwch weld beth sy’n achosi i chi gael ôl-fflach.

Mae gwybod beth sy’n eich sbarduno chi’n gallu bod yn ddefnyddiol i osgoi neu i reoli sefyllfaoedd sy’n anodd i chi eu trin

Mae sbardun yn gallu bod yn unrhyw beth sy’n cynnwys y 5 synnwyr cyffwrdd, blasu, arogli, gweld a chlywed

Gallai’r hyn sy’n eich sbarduno chi heddiw newid yfory

Allwch chi ddim stopio’r meddyliau cychwynnol sy’n gwthio i’ch meddwl ond gallwch chi ddewis sut yr ydych yn ymateb. Gallwch adael iddo ddigwydd nes bydd yn dod i ben neu gallwch ddewis dod yn ôl i’r presennol. Y ffordd o wneud hyn yw drwy ‘sgiliau seilio’ (gwelwch isod).

 

  • Trwy ymarfer, yn y pendraw, byddwch yn gallu dewis a ydych am dderbyn y gwahoddiad i fynd i mewn i ôl-fflach neu beidio.
  • Gallwch chi ddechrau drwy edrych ar y ffordd yr ydych yn gofalu amdanoch eich hun yn ystod y digwyddiadau hyn, yn hytrach nag edrych ar y cynnwys
  • Gallwch chi wneud hyn drwy sylwi pryd yr ydych yn penderfynu a ddylech chi ymyrryd, a beth rydych yn ei ddweud wrthych eich hun pan fyddwch chi’n gwneud y dewisiadau hyn
  • Wrth i chi ddechrau cael rheolaeth dros yr ymyriadau hyn – sy’n gallu cymryd amser – byddwch chi’n teimlo wedi eich grymuso
  • Mantais peidio derbyn y ‘gwahoddiad’, sef y sbardun, yw gwybod mai gennych chi mae’r rheolaeth

 

Sgiliau Seilio

 

Mae sgiliau seilio’n helpu drwy eich cadw chi mewn cysylltiad â’r pethau sydd o’ch amgylch chi ‘yn awr’. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anoddach i chi gael eich llethu gan atgofion o’r ‘gorffennol’. Gallwn ni ddefnyddio unrhyw rai o’n pum synnwyr i wneud hyn

 

  • Golwg – mae cadw eich llygaid yn agored pan fyddwch hi’n teimlo eich hun yn mynd i ffwrdd yn gallu helpu, ac hefyd ganolbwyntio ar wrthrych neu liw yn yr ystafell
  • Cyffwrdd – mae teimlo eich traed ar y ddaear neu sefyll yn gyflym a symud eich corff yn gallu helpu hefyd i ddod â chi yn ôl i’r ‘presennol’. Mae dal gwrthrych neu ddal llaw rhywun yn ddefnyddiol
  • Clyw – canolbwyntio’n galed ar wrando ar rywbeth neu rywun – cyfaill, y radio, hoff ddarn o gerddoriaeth
  • Blas – mae blas cryf yn gallu dod â chi yn ôl, e.e. sudd lemwn ar eich tafod
  • Arogl – anadlwch yn ddwfn, cynheuwch gannwyll gydag arogl, arogleuwch eich hoff bersawr/sent eillio