Effeithiau Camdriniaeth Rywiol yn ystod Plentyndod

Camdriniaeth rywiol yw pan fydd rhywun gyda mwy o bŵer na rhywun arall sy’n agored i niwed yn camfanteisio ar y pŵer hwnnw. Mae’r troseddu hwn yn digwydd ar ffurf rywiol ac mae’n cynnwys torri ymddiriedaeth, croesi ffiniau a throseddu’n ddwys yn erbyn synnwyr y goroeswyr ohonynt eu hunain.

Y peth pwysicaf i’w gofio yw mai ‘profiad’ y plentyn yw hyn ac, fel plentyn, dydych chi ddim yn gallu cydsynio mewn unrhyw ffordd.

Pwy sy’n gysylltiedig?

Mae camdriniaeth rywiol yn digwydd ymhob dosbarth cymdeithasol, a gall ddigwydd i fechgyn a merched o unrhyw oedran.

Gall ddigwydd unwaith, ychydig o weithiau neu fynd ymlaen am flynyddoedd lawer ac mae’r rhan fwyaf o gamdriniaeth rywiol yn digwydd gyda rhywun y mae’r person yn ei nabod yn dda.

Gall y dioddefwyr gael eu cam-drin gan fwy nag un person. Efallai bod y troseddwyr yn aelod o’r teulu neu’n rhywun y mae pawb yn ymddiried ynddo/ynddi. Gallan nhw fod yn ddynion neu’n ferched a gallan nhw gynnig gwobrwyon i’r unigolyn y maen nhw’n ei gam-drin

Rhai o agweddau bywyd yr oedolion sy’n cael eu heffeithio’n aml

Emosiynau (iselder, hwyliau niweidiol, gorbryder a dicter) a chanfyddiadau o’r hunan (euogrwydd, cywilydd, casineb at yr hunan, teimlo’n annheilwng)

  • Gwahaniaethau corfforol (problemau’r bledren, syndrom coluddyn llidus)
  • Rhywiol (oerni rhywiol, analluedd, dryswch am yr hunaniaeth, diffyg diddordeb neu ddiddordeb gormodol mewn rhyw)
  • Perthnasoedd gydag eraill
  • Rolau dysgwr (dioddefwr, merthyr)
  • Anawsterau cymdeithasol (ynysiad, ymddygiad gorfodaethol, ffobiâu, ymddygiad gwrthgymdeithasol, trais
  • Caethiwed (i gyffuriau, alcohol, gwaith), anhwylderau bwyta a hunan-niweidio

Gallai’r goroeswyr hefyd ddioddef o

Ddaduniad (synfyfyrio, mynd i rywle arall yn eu pennau a mynd i wewyr). Atchweliad sydyn (ymddygiad plentynaidd e.e. strancio, pwdu). Prosesau meddwl annhrefnus (anghofio a drysu a nam ar y synhwyrau, teimladau ddim yn cyfateb â digwyddiadau e.e. dideimlad, oeraidd, yn chwerthin pan maen nhw’n drist).