Cyflyrau Datgysylltiol a Daduniad

Dyma un diffiniad o ‘ddaduniad’: ‘rhywun yn teimlo bod y meddwl wedi ei ddaduno oddi wrth gyflwr emosiynol neu hyd yn oed oddi wrth y corff’. Rydyn ni oll yn cael rhyw fath o ddaduniad ar brydiau – o’n ‘colli’ ein hunain mewn llyfr neu ddarn o gerddoriaeth i beidio cofio’r daith yn y car yr ydym newydd ei gyrru. Ond, mae astudiaethau’n dangos bod y rhan fwyaf o bobl sydd â chyflyrau daduniad canolig i ddifrifol (sydd wedi eu trafod isod) wedi profi rhyw fath o gamdriniaeth yn ystod eu plentyndod, er nad yw pawb fydd wedi cael eu cam-drin yn dioddef o anhwylder daduniad.

Gallwn ni wahanu daduniad yn bum math gwahanol

  • Amnesia Methu cofio achlysuron, profiadau neu wybodaeth bersonol.
  • Dadbersonoli Teimlad nad yw eich corff yn real neu ddim ‘yno’ yn llwyr. Mae pobl hefyd yn dweud eu bod nhw’n teimlo fel petaen nhw’n eu gwylio eu hunain mewn ffilm.
  • Dadrealaeth: Teimlad bod y byd a’r bobl yn y byd ddim yn real. Gallai gwrthrychau newid yn eu maint, siâp neu liw.
  • Dryswch am hunaniaeth Teimlad o ansicrwydd ynglŷn â phwy ydych chi a beth sy’n eich gwneud yn ‘chi’.
  • Addasu eich hunaniaeth: Newid amlwg yn eich hunaniaeth neu bersonoliaeth sy’n addasu’r ffordd yr ydych yn ymddwyn mewn gwahanol sefyllfaoedd (er enghraifft, ymddwyn yn wahanol pan fyddwch chi gyda’ch teulu neu eich cydweithwyr)

Mae pob un ohonom yn cael penodau achlysurol o ddaduniad yn rhan o’n bywydau pob dydd. Gallwn ni hyd yn oed gael pyliau difrifol ohono fel ymateb naturiol i ddigwyddiad trawmatig, er enghraifft marwolaeth anwylyn. Ond, mae anhwylderau daduniad yn digwydd pan fydd rhywun yn cael cyfnodau o ddaduniad sy’n parhau ac yn ailadrodd ac nad oes modd eu hesbonio gan bethau fel cyfnod o salwch neu’r ffordd yr ydym ni i gyd yn tueddu bod yn anghofus weithiau.

Yr hyn sy’n gallu bod yn arbennig o anodd am anhwylderau dadunol yw y gallai person sy’n eu profi nhw fod yn teimlo’n ofnus, yn unig neu’n ddryslyd ar y tu mewn, ond ar y tu allan efallai eu bod nhw i’w gweld yn ymddwyn yn berffaith iawn.

Dyma rai o effeithiau posibl anhwylder daduniad:

  • Bylchau yn y cof
  • Delwedd anghywir o’ch corff
  • Anghofio apwyntiadau a/neu wybodaeth bersonol
  • Teimladau o fod yn afreal
  • Lleisiau a deialog mewnol
  • Teimlo wedi eich daduno oddi wrth eich emosiynau
  • Teimlo fel bod gwahanol bobl y tu mewn i chi
  • Teimlad nad ydych yn gwybod pwy ydych chi
  • Teimlo wedi eich daduno oddi wrth y byd
  • Dod o hyd i bethau yn eich eiddo nad ydych yn cofio eu prynu neu eu derbyn gan rywun
  • Teimlo fel dieithryn i chi’ch hun
  • Ymddwyn fel pobl wahanol / ymddygiad plentynaidd

Os ydych chi’n teimlo eich bod o bosib wedi eich effeithio gan anhwylder daduniad, efallai y byddwch chi eisiau trafod hyn gyda’ch cwnselydd. Gall cwnsela fod yn ffordd effeithiol o ail-sefydlu’r cysylltiadau rhwng meddyliau, teimladau, atgofion a chanfyddiadau yr ydych wedi dysgu daduno oddi wrthynt efallai fel ffordd o oroesi eich camdriniaeth.

Dros amser byddwch yn ffurfio perthynas therapiwtig gyda’ch cwnselydd – perthynas sy’n feddwl agored, ddim yn eich beirniadu ac sydd â ffiniau clir. Bydd hyn yn gadael i chi ail gysylltu’n ddiogel gyda’ch profiadau ac ail afael mewn teimlad o rymuso a rheolaeth.