Gall effeithiau hir dymor cam-drin plant yn rhywiol fod wedi eu gwreiddio mor ddwfn fel y gall fod yn anodd penderfynu pa effaith yn union a gafodd y gamdriniaeth arnoch. Gall dreiddio drwy bopeth, eich perthynas ag eraill, eich rhywioldeb, eich synnwyr hunaniaeth, eich ffordd o fagu plant, eich gwaith, bywyd, persbectif, pwyll.
Efallai y byddwch yn teimlo rhai neu bob un o’r canlynol:
- Teimlo’n ddrwg, budr neu deimlo cywilydd
- Teimlo’n ddi-rym, fel un sydd wedi dioddef
- Teimlo’n wahanol i bobl eraill
- Teimlo’n hunan-ddinistriol neu’n hunanladdol
- Teimlo hunan gasineb
- Teimlo fod rhywbeth mawr yn bod arnoch yn ddwfn oddi mewn ichi a phetai pobl eraill yn gwybod mewn gwirionedd sut un ydych chi ni fyddent yn eich hoffi / caru a byddent yn eich gadael
- Teimlo na allwch ddibynnu ar eich greddf eich hunan
- Teimlo na allwch eich amddiffyn eich hun mewn sefyllfaoedd peryglus
- Teimlo’n ansicr beth ydych chi eisiau neu beth ydych yn ei hoffi, eich amcanion, eich diddordebau a’ch doniau
- Teimlo diffyg symbyliad
- Teimlo na allwch symud
- Teimlo ofn llwyddo
- Ddim yn gallu cwblhau tasgau
- Teimlo fod yn rhaid i chi fod yn berffaith
- Teimlo’n annigonol
- Teimlo’n ddig, teimlo eich bod wedi cael eich brifo neu deimlo’n ofnus drwy’r adeg
- Hunllefau
- Ffobiâu
- Hunan-niweidio
- Colli cof
- Chwydu yn fwriadol
- Ymddygiad gorfodol
- Gorfwyta / goryfed alcohol / gorddefnydd o gyffuriau
- Anorexia Nervosa
- Dim diddordeb mewn rhyw
- Ofni rhyw
- Teimlo na allwch ddweud ‘Na’ wrth ryw
- Osgoi gweithgareddau rhywiol penodol
- Ymddygiad rhywiol ymosodol
- Dryswch ynghylch tueddfryd rhywiol
- Obsesiwn gyda rhyw
- Cael trafferth i agosáu at bobl
- Cael trafferth i ymddiried mewn eraill
- Anawsterau perthynas – ffrindiau / priodas /teulu
- Ofn bod ar eich pen eich hun
- Ofn bod yng nghwmni eraill
- Glynu wrth eraill a bob yn eithriadol o ddibynnol arnynt
- Gor-amddiffynnol o blant
- Angen bod mewn rheolaeth
- Bwlio eraill
- Cam-drin eraill
- Ymddygiad troseddol
- P.T.S.D (Anhwylder Straen Wedi Trawma)