February 9, 2022

Gwirfoddoli gyda’n Prosiect Gardd Gymunedol

man digging in a flower bed

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi ein dewis ni ar gyfer pecyn Gardd Gymunedol ac rydym angen gwirfoddolwyr i’n helpu.

Bydd eu cefnogaeth yn golygu ein bod yn derbyn llwyth o offer garddio, planhigion, coed, sied, tŷ gwydr a chyngor arbenigol i adeiladu gardd lle bydd y bobl a gefnogwn yn cael cyfle i dyfu eu cynnyrch eu hunain a dysgu am faeth a sgiliau garddio. Bydd yr ardd hefyd yn darparu lle o heddwch a llonydd i eistedd a mwynhau cefn gwlad.

Mae’r ardd yn cael ei chefnogi gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Erddig, sydd wedi bod yn ddigon caredig i adael i ni uno ein gardd ni i’w Gardd Eco nhw sydd wedi sefydlu’n barod yn Felin Puleston yn Wrecsam. Mae hwn yn lle gwych wedi ei amgylchynu gan afonydd a llwybrau cerdded gwledig.

Rydym yn chwilio am gymorth gan y gymuned yn awr i’n helpu i sefydlu’r gwelyau gardd a’r planhigion. Os hoffech ymuno â ni gallwch ffonio Shirley ar 0748399430 i gael rhagor o fanylion am y ffordd y gallwch wneud gwahaniaeth i fywydau’r bobl a gefnogwn yma yng Ngherrig Camu Gogledd Cymru.