July 4, 2021

Arweinydd colegol sy’n codi arian yn cwblhau her enfawr i elusen sy’n cefnogi dioddefwyr camdriniaeth

Man taking a selfie in rain gear and woman smiles on as they take part in a walking challenge

Stori newyddion a gymerwyd o Wrexham.com

Aeth ymgyrchydd codi arian diflino ar daith arwrol i elusen sy’n cefnogi dioddefwyr camdriniaeth.

Ar ôl cyflawni’r Tri Chopa yn 2018, a’r Crazy 7 yn yr Alban – yn cynnwys y Cairngorms – flwyddyn yn ddiweddarach, cwblhaodd Karl Jackson yr her ‘Bysedd Rhewllyd’ dros y gaeaf.

Teithiodd Karl, sy’n arweinydd safle ac yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol i’r Sefydliad Technoleg yn safle Ffordd y Bers Coleg Cambria yn Wrecsam, 100 milltir dros bedwar diwrnod mewn tywydd llwm dros gadwyn mynyddoedd Rhinogydd yn Eryri, sef un o’r tiriogaethau anoddaf a mwyaf garw yn y DU.

Yn ogystal â’r eira a’r rhew, dringodd dros greigiau garw, bryniau serth a morfeydd gyda bag ar ei gefn a dim ond Paul Standring, darlithydd yn y Gyfadran Addysg Uwch ac Adeiladu Technegol, yn gwmni iddo.

Ond talodd yr ymdrech ei ffordd; gyda’i gilydd cododd y ddau £1359 i Gerrig Camu Gogledd Cymru, sef elusen sefydledig iawn sy’n darparu gwasanaethau cymorth a chwnsela therapiwtig i oedolion a gafodd eu cam-drin yn feddyliol ac yn gorfforol yn eu plentyndod.

“Diolch o galon i bawb a roddodd arian, doedden ni methu credu’r ymateb,” meddai Karl.

“Roedd yn her frawychus, roeddem yn wynebu tywydd rhewllyd o oer ac roedd y daith yn anodd iawn ar brydiau, yn enwedig am ein bod yn cario bwyd, dŵr ac offer ar ein cefnau, ond daethon ni drwyddi.”

Ychwanegodd “Mae Cerrig Camu Gogledd Cymru’n elusen anhygoel felly mae’n bleser gennym allu cyfrannu at y gwaith rhyfeddol a wnânt yn ein cymuned.”

Diolchodd y Gwirfoddolwr a’r Rheolwr Digwyddiadau Shirley McCann i Karl a Paul am eu hymdrechion.

Rydyn ni mor ddiolchgar am eu cefnogaeth, roedd yn gyflawniad gwych a gododd arian hanfodol i’n helusen,” meddai Shirley.

“Bydd yr arian yn helpu i newid bywydau pobl fregus yng Ngogledd Cymru sy’n cario effeithiau’r trawma a gawsent o’u camdriniaeth fel plant ar hyd eu hoes, a bydd pob ceiniog yn mynd yn uniongyrchol at ddarparu ein gwasanaethau arbenigol.

“Yn anffodus, roedd pandemig y Coronofeirws wedi golygu bod rhaid i ni ganslo nifer o’r digwyddiadau codi arian oedd gennym ni ar y gweill, felly roedd yn rhaid i ni ddibynnu fwy a mwy ar roddion caaredig ein cefnogwyr. Roedd hyn yn arbennig o heriol am ein bod yn gweld cynnydd sylweddol yn y nifer o alwadau i’n llinell gymorth yn ystod y cyfnod clo.

“Mae ymdrechion pobl fel Karl wedi gwir ysbrydoli pobl eraill ac rydym yn hynod o ddiolchgar am hynny; bydd ei gefnogaeth yn helpu i newid bywydau pobl go iawn. Anhygoel!”

Diolchodd Karl i Goleg Cambria, Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru a chwmnïau partner yn cynnwys Anwyl, Wynne Construction, Redrow, M&P Construction, Jones Bros a Knights Construction Group am eu cefnogaeth,

Os hoffai unrhyw un wynebu her neu gyflawni gweithgaredd codi arian i gefnogi gwaith Cerrig Camu Gogledd Cymru, ffoniwch Shirley ar 07483 994 430.