July 28, 2020

Merch a ddioddefodd gamdriniaeth fel plentyn yn siarad yn deimladwy am y ffordd yr achubwyd ei bywyd gan elusen

Cymerwyd y stori newyddion hon o Wales247

Mae merch o Ogledd Cymru sy’n ysbrydoliaeth go iawn wedi siarad yn deimladwy am y ffordd y rhoddodd ei bywyd darniog yn ôl at ei gilydd wedi iddi gael ei cham-drin yn rhywiol gan ei brawd mawr pan oedd hi’n wyth oed.

Cafodd Megan (nid dyma ei henw iawn) ei harbed rhag parhau â’i bwriad i gymryd ei bywyd ei hun gan yr elusen Cerrig Camu Gogledd Cymru, sy’n cefnogi pobl a gafodd eu cam-drin yn rhywiol fel plant, ac erbyn hyn mae hi yn y brifysgol yn astudio hanes.

Mae’r ferch 58 oed yn teimlo’n bendant na fyddai hi’n fyw heddiw heb gymorth yr elusen sy’n cael ei hariannu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones.

Ei nod yn awr yw cymhwyso i fod yn athrawes a gweithio gyda phlant sydd mewn trafferthion.

Mae’r elusen, a sefydlwyd yn 1984, ar gael i bobl 18 oed neu’n hŷn, yn rhad ac am ddim ac mae ganddyn nhw gwnselwyr yn gweithio drwy Ogledd Cymru gyfan.

Yn ogystal â’r cyllido rheolaidd y mae’n ei ddarparu i sefydliadau sy’n gweithio gyda dioddefwyr camdriniaeth yng Ngogledd Cymru, mae Mr Jones wedi sicrhau £238,000 yn ychwanegol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i’w helpu i ymdopi â’r heriau ychwanegol a achoswyd gan yr argyfwng coronafeirws.

O ganlyniad, mae Cerrig Camu Gogledd Cymru wedi derbyn £29,750 yn ychwanegol i gefnogi cleientiaid sydd ar eu rhestr aros, ac mae hyn wedi eu galluogi nhw i gynnig mwy o sesiynau ar gyfer cwnsela a gwneud iawn am y cyfleoedd codi arian a gollwyd.

Ymysg y rheiny sydd wedi elwa o’r gwasanaeth mae Megan, menyw sydd â chreithiau emosiynol dwfn o hyd.

Mae hi’n cofio: “Pan oeddwn i’n wyth oed, cefais fy ngham-drin gan fy mrawd, oedd yn 15 oed bryd hynny. Rhoddodd arian i mi i gadw’n ddistaw. Aeth hynny ymlaen am flynyddoedd. Dw i’n cofio bod yn wyth a dw i’n cofio bod yn 10 ond dydw i’n cofio fawr ddim am y ddwy flynedd yn y canol. Dw i wedi eu cau nhw allan o’m cof.

“Dw i’n cofio bod yn 10 pan ddywedodd fy chwaer wrth fy mam a’m brawd am y peth, a chawson ni sgwrs yn yr ystafell fyw. Dydw i ddim yn gallu cofio yn union beth ddywedwyd ond rydw i’n cofio teimlo mai fi oedd yn cael y bai. Y teimlad oedd bod fy mrawd yn ymarfer ar gyfer yr adeg pan fyddai’n cael cariad a chefais innau fy ngalw’n butain am gymryd arian ganddo.

“Wariais i ddim yr arian, dim ond ei roi o’r neilltu. Doeddwn i ddim ei eisiau, dim ond eisiau i’r gamdriniaeth ddod i ben. Ond, ar ôl y sgwrs gyda mam, ni chafodd fy mrawd ei adael ar ei ben ei hun gyda fi eto.

Dywedodd: “Roeddwn yn briod yn 20 oed ac wedi ysgaru yn 22. O edrych yn ôl yn awr, gallaf weld fy mod yn ceisio ffoi, doedd gen i neb i fynd ato i siarad a doedd fy ngŵr ddim yn gallu deall yr hyn ddigwyddodd.

“Roedd priodi yn 20 oed yn gamgymeriad, es i’n feichiog yn gyflym iawn ond roedd fy ngŵr yn gas, roedd yn fy nghuro ac roeddwn i’n gleisiau i gyd. Cawson ni ddau blentyn, mab a merch. Ar ôl i ni wahanu daethon ni yn ôl at ein gilydd ond doedd y berthynas byth yn mynd i weithio.

“Rydw i’n dod ymlaen yn dda gyda fy merch ac mae hi’n 30 erbyn hyn. Byddai fy mab wedi bod yn 37 eleni ond, bedair blynedd yn ôl, cymerodd ei fywyd. Roedd yn dioddef o iselder. Roedd hyn yn waeth am nad oeddwn i wedi ei weld ers sbel, roeddwn i a’m mab wedi ymddieithrio.”

Ar ôl gwrthod cymryd meddyginiaeth, cafodd ei chyfeirio i Gerrig Camu Gogledd Cymru, sydd â swyddfa yn Wrecsam, gan ei meddyg teulu.

Meddai: “Roeddwn i’n dioddef pob mathau o broblemau meddwl ar y pryd a doedd dim ots gen i beth fyddai’n digwydd i mi. Byddwn yn gor-yrru’n ddiofal ac yn cymryd risgiau gwirion. Doedd dim ots gen i o gwbl. Roeddwn i’n bryderus drwy’r amser ac wedi gadael i bethau fynd yn ormod i mi. Roeddwn i fel potel o bop oedd wedi ei hysgwyd ac oedd yn barod i chwythu.

“Gweithiais gyda therapydd o Gerrig Camu Gogledd Cymru am ddwy flynedd a dydw i ddim am ddweud celwydd a dweud ei fod yn hawdd. Roedd yn anoddach fyth pan fu farw fy mab.

“Dydy therapi ddim yn hawdd. Mae fel tynnu crachen oddi ar eich bywyd a gadael i’r drygioni i gyd lifo.

“Llwyddodd Cerrig Camu Gogledd Cymru nid yn unig i arbed fy mywyd, ond rhoddodd fy mywyd i mi. Ymunais â’u grŵp goroeswyr a dechrau mynd i’w dosbarthiadau mathemateg a Saesneg a alluogodd i mi gael TGAU.

“Yna cofrestrais yn y coleg a gwneud cwrs mynediad dwy flynedd a gwneud cais i’r brifysgol. Rydw i wedi cwblhau blwyddyn gyntaf gradd mewn hanes erbyn hyn ac yn methu aros i’r ail flwyddyn gychwyn unwaith y bydd y pandemig yn gwella.

“Fy mreuddwyd yn awr yw gorffen fy ngradd ac yna addysgu. Hoffwn weithio gyda phlant anodd, rheiny sydd wedi cael profiadau drwg hefyd. Gallaf eu deall nhw a byddaf yn gwrando ar eu stori bob tro.”

Mae Rheolwr Digwyddiadau a Gwirfoddolwyr Cerrig Camu Gogledd Cymru, Shirley McCann yn disgrifio Megan fel ysbrydoliaeth.

Meddai “Cefais fy nghyflwyno i Megan gwpwl o flynyddoedd yn ôl ar ôl iddi fynd drwy therapi gyda chwnselwr o Gerrig Camu Gogledd Cymru. Unwaith yr oedd hi’n teimlo’n barod, ymunodd â’n Grŵp Cerrig Camu. Roedd hi’n gwir fwynhau cyfranogi yn y gweithgareddau ac aeth ymlaen i ymuno â’n gwersi addysgol. Roedd hi’n rhagori a dechreuodd ffynnu.

“I ddechrau, roedd hi’n swil a doedd ganddi ddim hunanhyder ond mae hi wedi ffynnu ac mae hi hyd yn oed wedi ennill gwobr myfyriwr y flwyddyn erbyn hyn. Dw i mor falch ohoni.

“Heb y gefnogaeth ariannnol gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru fydden ni’n methu gwneud yr hyn a wnawn.

“Mae’r ffôn yn canu bob dydd gyda dioddefwyr yn gofyn am gymorth a chefnogaeth. Rydyn ni’n elusen fach, dim ond pedwar aelod o staff ydyn ni ac, wrth gwrs, mae gennym gwnselwyr hyfforddedig sy’n barod i helpu.

Mae’r Comisiynydd Arfon Jones wrth ei fodd gyda llwyddiant Cerrig Camu Gogledd Cymru ac mae wedi addo parhau i gefnogi’r elusen.

Meddai: “Mae stori Megan yn dorcalonus ac yn ysbrydoli. Mae camdriniaeth rywiol yn drosedd ddifrifol sy’n cael canlyniadau hirbarhaus i’r dioddefwyr.

“Ond, diolch i waith cwnselwyr Cerrig Camu Gogledd Cymru a’r grŵp Camau Nesaf, mae hi’n ffynnu ac yn gwneud bywyd newydd iddi ei hun, un y mae hi’n ei haeddu’n fawr iawn.

“Dw i’n ystyried Cerrig Camu Gogledd Cymru’n wasanaeth hanfodol. Mae camdriniaeth rywiol yn drosedd gudd ac yn rhywbeth y mae angen i ni fel cymdeithas ymdrin ag o. Mae’n rhaid i’r dioddefwyr ddod yn gyntaf, ac mae’n bleser o’r mwyaf gennyf allu cefnogi’r elusen wych hon i wneud y gwaith hanfodol a wnânt.”